Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae i helpu i gadw ein ffyrdd yn ddiogel i bawb, boed hynny'n fodurwyr, yn gerddwyr, yn seiclwyr, neu'n anifeiliaid.
Mae gan Heddlu De Cymru dimau arbenigol i gadw defnyddwyr ffyrdd yn ddiogel, gan gynnwys Uned Plismona'r Ffyrdd sydd ar batrôl ddydd a nos i atal a chanfod troseddau, a Thîm Troseddau Tiriogaethol sy'n targedu troseddwyr cyfundrefnol, gan eu hatal rhag defnyddio'r ffyrdd.
Mae gennym nifer o swyddogion arbenigol, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u hyfforddi i ymchwilio i wrthdrawiadau, cefnogi teuluoedd sydd mewn profedigaeth ac ymchwilio i achosion cymhleth er mwyn eu dwyn gerbron y llys a sicrhau cyfiawnder.
Rydym hefyd yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys Asiantaeth Cefnffyrdd De Cymru, Traffig Cymru, awdurdodau lleol a chydweithwyr y gwasanaethau brys.
Rydym ymhlith nifer o bartneriaid sy'n cefnogi Gan Bwyll, sef menter i leihau anafiadau ar y ffyrdd ledled Cymru, sydd hefyd yn cynnal Ymgyrch Snap.
Wyddech chi, mai'r Pump Angheuol yw prif achosion gwrthdrawiadau traffig ffyrdd yng Nghymru.
Byddwch yn Doeth ar y Ffordd a sicrhewch eich bod yn gwybod beth yw'r Pump Angheuol a sut y gallwch amddiffyn eich hun a defnyddwyr eraill y ffyrdd yn well drwy eu hosgoi.
1. Pa mor aml y caiff rhywun ei ladd neu ei anafu'n ddifrifol ar ffyrdd y DU?
Bob 10 munud
Bob 22 munud
Bob 47 munud
Bob 55 munud
2. Mae goryrru yn ffactor mewn sawl damwain ffordd angheuol?
1 o bob 3
1 o bob 4
1 o bob 5
1 o bob 6
3. Faint o bobl sy'n marw yn y DU bob blwyddyn mewn damwain sy'n gysylltiedig ag yfed?
Llai na 150
Mwy na 200
Mwy na 300
4. Mae gyrru o dan ddylanwad cyffuriau yn ffactor mewn sawl damwain angheuol yn y DU?
1 o bob 5
1 o bob 10
1 o bob 20
1 o bob 30
6. Faint yn fwy tebygol ydych chi o gael damwain os ydych chi'n defnyddio eich ffôn wrth yrru?
Dwywaith
Teirgwaith
Pedair gwaith
1. 689
2. Bob 22 munud
3. 1 o bob 3
4. Mwy na 200
5. 1 o bob 20
6. Pedair gwaith
Meddwl eich bod wedi ffilmio trosedd traffig ffordd wrth iddi ddigwydd? Ddim yn credu y bydd eich fideo yn gwneud gwahaniaeth?
Mae pawb a welir yn y clipiau byr hyn wedi cael eu herlyn am droseddau yn cynnwys gyrru'n beryglus, gyrru heb ofal na sylw priodol, anwybyddu goleuadau traffig, a gyrru â llwyth anniogel.
Cafodd pob un ei erlyn o ganlyniad i adroddiadau gan y cyhoedd.
Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i helpu i gadw ein ffyrdd yn ddiogel, a gall eich camera dashfwrdd, ffôn symudol neu fideo teledu cylch cyfyng chwarae rhan fawr yn hyn o beth.
P'un a ydych wedi dal rhywun yn gyrru heb wisgo gwregys diogelwch, yn gyrru wrth ddefnyddio ffôn symudol, neu'n gyrru'n beryglus, mae #YmgyrchSnap, a reolir gan ein hasiantaeth barter GanBwyll, yn eich galluogi i adrodd am bryderon ynghylch troseddau traffig a chyflwyno fideos yn rhwydd.
Dysgwch fwy am y broses: GanBwyll - Ymgyrch snap
Roedd Ron Fealey yn aelod annwyl a phoblogaidd o'r gymuned yn ardal Merthyr, a bydd ei deulu a'r gymuned ehangach yn gweld ei eisiau'n fawr.
Roedd hwn yn brofiad trawmatig i'r teulu yn enwedig dros gyfnod y Nadolig.
Bu farw Ryan, 20 oed, ar ôl i yrrwr y car roedd yn teithio ynddo golli rheolaeth.
Mae ei deulu nawr yn annog gyrwyr i gymryd gofal ar y ffyrdd.
Gall ymchwilio i wrthdrawiadau angheuol o'r fath, a sicrhau cyfiawnder yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol, fod yn broses gymhleth a hirfaith.
Dyma un o swyddogion ein Huned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol yn trafod yr ymchwiliad.
(Fideo Saesneg)
Ydych chi erioed wedi mynd i banig wrth weld golau cerbyd argyfwng yn fflachio wrth agosáu atoch? Ddim yn siŵr a ddylech barhau i yrru, arafu neu stopio?
Byddwch yn Doeth ar y Ffordd a helpwch ni a'n cydweithwyr golau glas i ymateb i argyfyngau mor gyflym a diogel â phosibl drwy edrych eto ar y cyngor allweddol hwn.
Mae gwybodaeth fanylach hefyd ar gael yn https://bluelightaware.org.uk/
Wyddech chi?
Cafodd 66 o geffylau eu lladd ar ffyrdd y DU y llynedd*.
Mae marchogion yn ymdrin ag anifeiliaid mawr a phwerus a all fod yn ofnus ar y ffordd, ond gall gyrwyr cerbydau modur helpu'r marchogion a'r ceffylau drwy eu goddiweddyd yn ofalus ac yn ddiogel.
Ym mis Gorffennaf, cynhaliwyd ymgyrch diogelwch ar y ffordd am dridiau dan arweiniad ein hadran geffylau, mewn perthynas â Chymdeithas Geffylau Prydain. Nod Ymgyrch Arabis oedd addysgu defnyddwyr ffyrdd nad ydynt yn cyrraedd y safon ofynnol wrth basio ceffyl ar y ffordd.
Byddwch yn ddoeth ar y ffordd a gwnewch yn siŵr eich bod yn goddiweddyd ceffylau a'u marchogion yn briodol, fel y gall y ceffyl a'r marchog ddychwelyd adref yn ddiogel ac yn hapus.
Os ydych yn farchog ac wedi cael rhywun yn eich goddiweddyd yn amhriodol ac mae gennych fideo ohono, gallwch roi gwybod amdano drwy ein partneriaid GanBwyll, sy'n cynnal Ymgyrch Snap. Ceir dolen uchod i roi gwybod.
Dyma awgrymiadau gan Gymdeithas Geffylau Prydain ar sut i helpu i gadw ein ffyrdd yn ddiogel i ddefnyddwyr ffyrdd sy'n agored i niwed:
Beicwyr a marchogion | Cymdeithas Geffylau Prydain (bhs.org.uk)
Araf iawn | Cymdeithas Geffylau Prydain (bhs.org.uk)
Gyrru ar y ffyrdd | Cymdeithas Geffylau Prydain (bhs.org.uk)
*Darparwyd ystadegau gan Gymdeithas Geffylau Prydain ar gyfer ffyrdd yn y DU.
Ers dechrau'r flwyddyn, mae 45 o ddamweiniau* wedi digwydd ar ein ffyrdd a oedd yn cynnwys beicwyr modur. Rydym am sicrhau bod pawb sy'n defnyddio'r ffyrdd yn aros yn ddiogel, ond mae pobl sy'n gyrru beiciau modur yn wynebu risg uwch o fod yn rhan o wrthdrawiad am eu bod yn agored i niwed. Ystyriwch y rhai o'ch cwmpas a byddwch yn #DoetharyFfordd.
Mae Ride Craft Hub yn rhannu cyngor defnyddiol a deunydd darllen arbenigol i feicwyr modur er mwyn eu helpu i wella eu sgiliau ar y beic.https://www.ridecrafthub.org/
Mae beicwyr modur o'n Huned Diogelwch ar y Ffyrdd a Cherbydau Masnachol wedi bod yn cynnal gweithdai BikeSafe er mwyn addysgu beicwyr modur am yr arferion gorau.
Yn ystod y gweithdai hyn, ymunodd beicwyr modur â ni o bob rhan o'n cymunedau a gwnaethant fwynhau taith gyda'n swyddogion beiciau modur yn ogystal â chael hyfforddiant yn yr ystafell ddosbarth i wella eu ffordd o yrru.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn ymuno ag un o'n gweithdai? Cadwch eich lle drwy ddilyn y ddolen hon -
https://bikesafe.co.uk/southwales/...
*Mae'r ystadegau yn gywir ar 08/07/2024.