Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae canabis a resin canabis yn gyffur Dosbarth ‘B’.
Wyddech chi: mae'n anghyfreithlon bod â chanabis yn eich meddiant, ei gyflenwi, neu ei gynhyrchu.
Mae'r goblygiadau'n cynnwys:
Mae smygu canabis yn eich cartref eich hun yn anghyfreithlon.
Mae cael cynhyrchion canabis at ddefnydd meddygol yn eich meddiant hefyd yn anghyfreithlon, oni bai eu bod wedi cael eu rhagnodi i chi.
Gall arogl canabis achosi pryder i gymdogion a'r gymuned leol. Mae gan yr heddlu a'i bartneriaid bwerau ac adnoddau i gymryd camau gorfodi er mwyn delio ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Os ydych yn denant tŷ cymdeithasol, yn denant eiddo rhent preifat neu mewn llety myfyrwyr, efallai y cysylltir â'ch landlord (neu brifysgol) a gallai benderfynu cymryd camau gorfodi yn erbyn eich tenantiaeth (a'ch lle yn y brifysgol).
Mae'r gwasanaethau canlynol ar gael am ddim yn lleol:
DAN 24/7 (Llinell Gymorth Cyffuriau ac Alcohol Cymru): rhadffôn 0808 808 2234; tecstiwch DAN i 81066; www.dan247.org.uk
Cymorth iechyd meddwl ddydd a nos, saith diwrnod yr wythnos. Ffoniwch 111, dewiswch opsiwn 2
Gwasanaeth cymorth i'r rhai sydd â phroblemau iechyd meddwl, ffoniwch: 03001233392 neu tecstiwch 86463