Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Pan fydd rhywun yn dioddef trosedd, gall y profiad achosi gofid a gall fod yn ddryslyd ac yn ansicr. Un o'r pryderon mwyaf cyffredin y mae pobl yn sôn amdano wrthym yw peidio â gwybod beth sy'n digwydd gyda'u hachos. Gall cwestiynau fel “Beth sy'n digwydd nesaf?”, “Pwy fydd yn rhoi diweddariad i fi?” a “Pryd byddaf yn clywed gan rywun?” ychwanegu at sefyllfa sydd eisoes yn anodd.
Yn Heddlu De Cymru, rydym yn gwybod y gall cyfathrebu clir wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Dylai dioddefwyr deimlo bod yr wybodaeth a'r cymorth priodol ar gael iddynt ac yn dawel eu meddyliau wrth i ni ymchwilio i'w hachos. Fodd bynnag, wrth i droseddu ddod yn fwyfwy cymhleth a'r galw barhau i gynyddu, gall fod yn heriol cyfathrebu mewn modd amserol a chyson, er gwaethaf proffesiynoldeb ac ymrwymiad ein swyddogion a'n staff.
Er mwyn sicrhau bod dioddefwyr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am eu hachos, mae Heddlu De Cymru wedi cyflwyno dull newydd o gyfathrebu sy'n cynnig gwybodaeth gliriach a chyfathrebu amserol, gan ei gwneud hi'n haws i bobl weld gwybodaeth am eu hachos. Y bwriad yw rhannu'r newyddion diweddaraf â dioddefwyr a’u helpu i deimlo eu bod yn gallu cadw mewn cysylltiad â’r heddlu a’u bod yn cael eu cefnogi gennym wrth i ni ymchwilio i'w hachos.
Gall dioddefwyr gael gwybodaeth am eu hachos yn ystod camau allweddol o'r ymchwiliad. Mae hyn yn helpu pobl i ddeall beth sy'n digwydd, beth yw’r camau posibl nesaf a sut gallan nhw gael cymorth os bydd ei angen arnynt.
Caiff rhywfaint o wybodaeth ei rhannu’n awtomatig, gan helpu i sicrhau bod diweddariadau pwysig yn cael eu cyfathrebu'n gyson a heb oedi diangen. Gall hyn leihau ansicrwydd a rhoi tawelwch meddwl i ddioddefwyr drwy eu helpu i ddilyn hynt eu hachos.
Nod y dull newydd hwn yw:
Mae hefyd yn ategu ein hymrwymiad i fodloni gofynion y Cod Dioddefwyr a helpu i sicrhau bod dioddefwyr yn cael yr wybodaeth a'r cyfathrebu y mae ganddynt hawl iddynt.
Yn rhan o’r dull hwn, mae porth ar-lein diogel sy'n galluogi dioddefwyr i weld gwybodaeth am eu hachos a manylion am hynt eu hymchwiliad. Dyma ffordd gyfleus o gadw mewn cysylltiad â'r swyddog sy'n ymdrin â'r ymchwiliad.
Mae'r porth yn galluogi dioddefwyr i gael mynediad at wybodaeth am eu hachos ar adeg sy'n gyfleus iddyn nhw, heb orfod cysylltu â swyddogion am wybodaeth arferol. Mae’n cynnig ffordd gyfleus o glywed y diweddaraf am eu hachos a chadw mewn cysylltiad â'r swyddog sy'n gyfrifol am eu hymchwiliad.
Drwy'r porth, gall dioddefwyr wneud y canlynol:
Bydd gwybodaeth yn cael ei darparu'n uniongyrchol drwy'r porth, gan helpu dioddefwyr i gael mynediad at fanylion clir a chyson am eu hachos. Gall hyn leihau ansicrwydd a rhoi tawelwch meddwl drwy helpu pobl i ddilyn y diweddaraf drwy gydol yr ymchwiliad.
Mae'r porth ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ac mae wedi'i gynllunio i fod yn syml, yn ddiogel ac yn hawdd ei ddefnyddio.
Mae'r cwbl wedi'i gynllunio o amgylch anghenion dioddefwyr wrth gefnogi'r ffordd y mae swyddogion a staff eisoes yn gweithio.
Y nod yw creu modd symlach a mwy cyfleus o gael mynediad at wybodaeth, gan wneud yr achos yn fwy amlwg i ddioddefwyr a rhoi mwy o ddewis iddynt am y ffordd maen nhw’n cael diweddariadau.
Mae heddluoedd sydd wedi cyflwyno systemau tebyg wedi nodi adborth cadarnhaol gan ddioddefwyr, wrth i lawer o bobl werthfawrogi'r gallu i gael gafael ar wybodaeth ar adeg sy'n addas iddyn nhw a theimlo'n fwy gwybodus am hynt eu hachos.
Ni fydd y porth yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y mathau o droseddau mwyaf sensitif, gan gynnwys cam-drin domestig, troseddau rhywiol a thrais difrifol, yn ystod y cam cychwynnol.
Bydd dioddefwyr y mae'n well ganddynt ddulliau cyfathrebu traddodiadol, neu y mae eu hamgylchiadau yn gofyn am ddull mwy personol, yn parhau i gael cymorth yn y ffordd sy'n diwallu eu hanghenion orau.
Mae defnyddio'r porth yn gwbl ddewisol. Fe'i crëwyd i ategu, nid disodli, gyswllt personol â swyddogion neu farn broffesiynol.
Mae llwybrau amgen, gan gynnwys 101 a chysylltiad uniongyrchol â swyddogion, yn parhau i fod ar gael i sicrhau bod cymorth yn hygyrch i bawb, ni waeth am fynediad digidol neu amgylchiadau personol.
Ni fydd y porth yn cael ei ddefnyddio ym mhob achos. Pan fo materion diogelu, bregusrwydd, neu'r angen i ymgysylltu'n bersonol yn golygu ei bod hi'n fwy priodol cysylltu â dioddefwyr yn uniongyrchol, bydd swyddogion yn parhau i weithio'n agos gydag unigolion i roi gwybodaeth a chymorth yn y ffordd sy'n diwallu eu hanghenion orau.
Mae ein nod yn syml: darparu gwybodaeth gliriach, rhoi mwy o sicrwydd, a chynnig gwell cymorth i ddioddefwyr wrth i ni ymchwilio i'w hachos.
Drwy ddarparu gwybodaeth glir a helpu pobl i gael gwell syniad o'r hyn sy'n digwydd gyda'u hachos, y nod yw lleihau ansicrwydd, magu hyder a helpu dioddefwyr i gael cymorth a'r wybodaeth ddiweddaraf.
Mae'r porth yn ategu'r dull personol hwn o gysylltu â swyddogion yn hytrach na'i disodli. Gall dioddefwyr siarad â swyddogion yn uniongyrchol yn y ffordd arferol, ond mae ganddynt hefyd yr opsiwn i weld gwybodaeth am eu hachos ar-lein.
Bydd Heddlu De Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr a sefydliadau cymunedol er mwyn sicrhau bod dioddefwyr yn cael y gofal, y gefnogaeth a'r cymorth y mae eu hangen arnynt.