Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn cwmpasu ardal fawr ac amrywiol yn ddaearyddol sy'n 812 o filltiroedd sgwâr, mae'n gwasanaethu 1.3 miliwn o bobl sy'n cyfateb i 42% o boblogaeth Cymru ac yn ymdrin ag oddeutu hanner cyfanswm y troseddau a gofnodir yng Nghymru.
Mae gennym tua 6,000 o gyflogeion, ac mae tua 1,200 ohonynt wedi'u lleoli yn ein pencadlys ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Nid yn unig mae angen i ni drawsnewid ein fflyd i opsiynau carbon isel, mae angen i ni hefyd ddarparu seilwaith i'n staff deithio'n llesol a thrawsnewid eu cerbydau eu hunain i opsiynau carbon isel dros y 10 mlynedd nesaf.

Mae gennym fflyd o fwy na 900 o gerbydau ar hyn o bryd, sy'n bodloni ystod eang o ofynion o drafnidiaeth sylfaenol i blismona rheng flaen a llu o rolau arbenigol. Mae costau refeniw blynyddol gwasanaethau fflyd yn cyfateb i oddeutu £6 miliwn gyda rhaglen amnewid cyfalaf blynyddol o oddeutu £2 filiwn. Mae'r cerbydau yn y fflyd yn teithio cyfanswm o oddeutu 10 miliwn o filltiroedd y flwyddyn.
Yn 2015, cafodd yr adran fflyd ei chanoli a'i huno ag adran fflyd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, gan sefydlu cyfleuster cydweithredol yn Nhˆy Richard Thomas, Ystad Ddiwydiannol Bracla, Pen-y-bont ar Ogwr ac arbed £2.6m.
Yn 2022, gwnaethom baratoi strategaeth trawsnewid fflyd lawn ar gyfer y broses o drawsnewid i gerbydau allyriadau isel iawn (ULEV). Ar hyn o bryd, mae'r fflyd yn cynnwys 29 o gerbydau sy'n defnyddio trydan yn unig a thros 80 o gerbydau hybrid. Rydym yn bwriadu cynyddu'r gyfradd caffael ar gyfer mwy o gerbydau ULEV dros yr ychydig flynyddoedd nesaf wrth i ni barhau i ddatblygu ein seilwaith gwefru.
Mae gan Heddlu De Cymru drefniadau gweithio hyblyg i staff a all weithio gartref ac mae'n hyrwyddo cyfleoedd teithio llesol i staff fel beicio i'r gwaith (mae cawodydd ar gael) ond rydym yn cydnabod bod angen gwneud rhagor o waith i gyflwyno cyfleusterau gwefru i staff.
Polisïau CefnogolCafodd y fersiwn derfynol o Strategaeth Fflyd Heddlu De Cymru ei chwblhau yn 2022 ac roedd yn amlinellu trywydd i drawsnewid fflyd yr heddlu i ULEV ynghyd ag adolygiad o seilwaith gwefru. Mae hyn yn cynnwys ystyried ystwythder a thrawsnewid digidol a fydd yn effeithio ar swyddogaeth y fflyd. We calculated the impact of commuting and staff travel as part of our Net Zero commitments in 2023, and prepared targeted inventions and actions to address. |
Yn ein strategaeth trawsnewid fflyd a'n hymrwymiad cyffredinol i sero net 2030, rydym wedi nodi cyfres o dargedau a chamau gweithredu uchelgeisiol.
Mae ein meysydd allweddol fel a ganlyn:
| Meysydd ffocws | Camau allweddol |
|---|---|
| 1. Trawsnewid y fflyd i ULEV | Trawsnewid i ULEV (Fflyd). Y fflyd a gwasanaethau brys ehangach a grwpiau sector cyhoeddus i baratoi strategaeth fflyd sydd, yn ddelfrydol, yn gyson â sefydliadau sector cyhoeddus eraill yn y rhanbarth. |
| 2. Darparu seilwaith gwefru a thanwydd carbon isel |
Adolygu capasiti trydanol ym mhob safle er mwyn helpu i gyflwyno seilwaith gwefru. Paratoi strategaeth seilwaith gwefru a pholisi gwefru ategol er mwyn penderfynu ar y math o seilwaith gwefru ULEV, ei gapasiti a'r feddalwedd ar y cyd â rhanddeiliaid sector cyhoeddus eraill gyda pholisi ategol i bennu'r weithdrefn ar gyfer galluogi staff i wefru ar safleoedd Heddlu De Cymru gan ddefnyddio cardiau tanwydd trydan. Cyflwyno seilwaith gwefru trydanol ym mhob rhan o ardal yr heddlu. Gwneud cais am waith uwchraddio drwy Western Power lle bo angen. Ar hyn o bryd, rhoddir blaenoriaeth i bwyntiau gwefru cerbydau trydan yn y Pencadlys, Bridewells, Tŷ Thomas, Kingsway, Lakeside a Gwaelod-y-Garth. Ymchwilio i'r potensial i gynhyrchu, storio, dosbarthu a defnyddio tanwydd hydrogen. |
| 3. Hwyluso ULEV staff | Ymchwilio i gynllun aberthu cyflog i staff ar gyfer cerbydau trydan. |
| 4. Arolwg Teithio Llesol Staff |
Adolygu arferion cymudo a theithio staff a pharatoi cynllun teithio gwyrdd. Hyrwyddo opsiynau teithio llesol i'r staff a deall rhwystrau a chymhellion posibl i annog teithio llesol. Hyrwyddo 'gweithio ystwyth' er mwyn cefnogi trefniadau gweithio gartref hyblyg a hwyluso'r angen i leihau nifer y desgiau parhaol sydd eu hangen. Hyrwyddo cynllun beicio i'r gwaith er mwyn annog teithio llesol. Asesu a darparu cyfleusterau storio beiciau diogel a chawodydd ym mhob prif safle. |
| Blwyddyn | Targed |
|---|---|
| 2022 | Adolygu'r fflyd Deall gofynion gwefru'r ystad Cynllunio seilwaith ar gyfer cerbydau trydan |
| 2023 | 20% o gerbydau anweithredol newydd a archebir yn rhai trydan llawn |
| 2024 | 50% o'r seilwaith gwefru cerbydau trydan ar waith |
| 2025 | 50% o gerbydau newydd i fod yn ULEV |
| 2026 | Pob cerbyd anweithredol a brynir yn ULEV |
| 2028 | Seilwaith gwefru cerbydau trydan ar waith |
| 2030 | 80% o'r fflyd ymateb i fod yn ULEV |
