Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r gadwyn gwerth yn cynnwys gweithgareddau anuniongyrchol ‘ymhellach i fyny ac ymhellach i lawr‘ y gadwyn sy'n creu allyriadau sy'n gysylltiedig â gweithrediadau Heddlu De Cymru.
Mae allyriadau ‘anuniongyrchol’, a elwir yn allyriadau ‘Cwmpas 3’ yn y Protocol Nwy Tŷ Gwydr, yn anos i'w rheoli a'u lliniaru, ond maent yn eithriadol o arwyddocaol o safbwynt y camau cyffredinol rydym yn eu cymryd i gael yr effaith fwyaf ar ein taith tuag at sero net.
Ymhlith y pethau rydym yn anelu at eu mesur a'u rheoli mae:
|
Mae'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn caffael £6 biliwn o nwyddau a gwasanaethau bob blwyddyn, y mae llawer ohono yn creu refeniw i fusnesau yng Nghymru. Gall y sector cyhoeddus ddefnyddio rheolau caffael yn gadarnhaol er mwyn helpu i leihau allyriadau mewn nifer o feysydd gan gynnwys cerbydau allyriadau isel iawn a chynhyrchion carbon isel. Gall llwyddiant wrth newid ein dull caffael leihau allyriadau yng Nghymru drwy anfon arwyddion priodol. Gall hefyd baratoi'r gadwyn gyflenwi yng Nghymru ar gyfer marchnadoedd carbon isel ehangach y dyfodol.
|
Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd da o ran gwastraff, gan dargedu camau gweithredu yn unol â'r egwyddor osgoi/lleihau/ailddefnyddio/ailgylchu mewn termau syml i osgoi, lleihau ac ailgylchu. Rydym wedi torri i lawr ar ddeunydd pecynnu sy'n dod i mewn ac wedi newid i drefniadau gweithio mwy clyfar ar gyfer staff mewn rolau addas.
Rydym yn cynnig cynllun beicio i'r gwaith ac rydym yn gweithio gyda'r adrannau cyllid ac adnoddau dynol i ystyried opsiynau ar gyfer cynllun aberthu cyflogau ar gyfer cerbydau allyriadau isel.
Mae llawer iawn o waith i'w wneud i fynd i'r afael â'n hallyriadau ‘Cwmpas 3’, gan ddechrau drwy fesur effaith ein gweithgareddau ymhellach i fyny ac ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi yn gywir. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod cyfle gennym i wneud enillion mawr o ran sut y gallwn ddylanwadu ar gyflenwyr a rhanddeiliaid mewnol i leihau'r allyriadau o'n gweithgareddau.
Mae ein meysydd ffocws allweddol fel a ganlyn:
| Meysydd ffocws | Camau allweddol |
|---|---|
| 1. Cyfrifo carbon ac ymgysylltu â'r gadwyn gyflenwi |
Sefydlu ôl troed carbon ein gweithgareddau Cwmpas 3 a sefydlu methodoleg y gellir ei hatgynhyrchu er mwyn helpu i gasglu a dadansoddi data'n rheolaidd. Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu methodoleg gadarn i gyfrifo allyriadau'r gadwyn gyflenwi. |
| 2. Caffael |
Dechrau llunio canllawiau i gyflenwyr er mwyn helpu i gasglu data CO2e a'u cynnwys fel rhan o gontractau, gan ganolbwyntio ar y meysydd sy'n cael yr effaith fwyaf, fel adeiladau a thrafnidiaeth. Gweithio gyda phartneriaid fel CLlLC er mwyn cael gafael ar ganllawiau i gyflenwyr. Mabwysiadu Cod Ymarfer Caffael Cenedlaethol i sicrhau y caiff gwerth yn y gadwyn gyflenwi ei gynyddu i'r eithaf gan gynnal safon uchel ar gyfer nwyddau a gwasanaethau ar yr un pryd. Dadansoddi'r meysydd lle gwelir yr effaith fwyaf o ran allyriadau yn y gadwyn gwerth a datblygu cynllun gweithredu i dargedu a lleihau allyriadau fesul cam. |
| 3. Gwastraff |
Gweithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau gostyngiad o 5% Kg/m2 arwynebedd llawr yn swm y gwastraff a anfonir i'w dirlenwi. Rhoi rhaglen lawn o fentrau lleihau gwastraff ar waith ar draws y sefydliad, gan gynnwys dadansoddi ffrydiau gwastraff er mwyn pennu cyfleoedd i leihau, adfer a gwerthu cyfarpar y mae'r heddlu wedi'i ddefnyddio. |
| 4. Dŵr | Gosod mesuryddion dŵr awtomatig ar draws yr ystad er mwyn hwyluso mentrau rheoli dŵr. |
| 5. Defnydd tir a chynllunio ystadau strategol |
Bydd effeithlonrwydd carbon yn un o egwyddorion craidd gwaith cynllunio ystadau strategol - bydd carbon meintioledig yn fetrig penderfynu allweddol ar gyfer cynllunio datblygiadau newydd, rhesymoli'r ystad a hyrwyddo ffyrdd callach o weithio. Cynnal asesiad o risgiau newid hinsawdd mewn perthynas â'r ystad bresennol er mwyn asesu effeithiau newid hinsawdd fel tymereddau uchel a'r perygl o lifogydd. |