Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Bydd Heddlu De Cymru yn cynnal Gwrandawiad Camymddygiad yr Heddlu yn unol â darpariaethau Rheoliadau'r Heddlu (Ymddygiad) 2020, gan ddechrau am 10.00am ddydd Mercher 25 Tachwedd 2026 yng Nghanolfan Waterton, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3WT.
Bydd y gwrandawiad yn cael ei glywed gan banel annibynnol dan gadeiryddiaeth Mr Ian Arundale, yng nghwmni dau aelod annibynnol.
Mae Swyddog yr Heddlu sy'n destun yr achos wedi gwneud cais i gynnal y gwrandawiad yn breifat a rhoi cyfyngiadau ar waith o ran adrodd.
Mae Mr Arundale wedi gorchymyn cyhoeddi Hysbysiad o Wrandawiad ac mae'n gwahodd sylwadau gan unrhyw Barti â Buddiant a allai fod yn dymuno gwrthwynebu cais y Swyddog am wrandawiad preifat a gorchymyn cyfyngiadau adrodd.
Mae'r swyddog dan sylw yn wynebu honiadau ei fod wedi torri'r Safonau Ymddygiad Proffesiynol isod, yn sgîl darparu gwybodaeth anwir yn y broses fetio, mynediad anawdurdodedig at systemau cyfrifiadurol Heddlu De Cymru a methu datgelu gwrthdaro buddiannau mewn treial troseddol.
Safon 1 - Gonestrwydd ac Uniondeb
Safon 5 - Gorchmynion a Chyfarwyddiadau
Safon 7 - Cyfrinachedd
Safon 9 – Ymddygiad Annheilwng
Os oes Parti â Buddiant neu gynrychiolydd o'r cyfryngau sy'n dymuno gwneud sylwadau o dan Reoliad 36 (3) a/neu 36 (5) o Reoliadau'r Heddlu (Ymddygiad) 2020 i wrthwynebu cais y swyddog, dylai gyflwyno sylwadau o'r math yn ysgrifenedig, eu cyfeirio at y Cadeirydd a'u hanfon i Swyddfa'r Wasg Heddlu De Cymru erbyn 30 Medi 2026 fan bellaf.
Bydd y Cadeirydd yn gwneud penderfyniad terfynol ar ôl ystyried unrhyw sylwadau a wneir yn llawn.