Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ei phasio ar 30 Tachwedd 2000. Mae’n creu hawl mynediad cyffredinol i bob math o wybodaeth a gofnodir a ddelir gan y rhan fwyaf o awdurdodau cyhoeddus y DU, yn cynnwys ni. Mae hefyd yn nodi eithriadau ac yn rhoi nifer o rwymedigaethau ar yr awdurdodau cyhoeddus hynny. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, ein rhwymedigaethau a’ch hawliau isod.
Daeth eich hawliau i gael gwybodaeth o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth i rym ar 1 Ionawr 2005. Yn ddarostyngedig i rai eithriadau, mae gofyn i ni:
Er mwyn pori trwy’r wybodaeth a gyhoeddwyd gennym neu er mwyn gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth newydd, ewch i’n tudalen Gwneud cais am wybodaeth amdanom ni.
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth sy’n gyfrifol am wneud yn siŵr ein bod yn cydymffurfio â’r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth ac am hyrwyddo arfer gorau.
Cysylltwch â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ar-lein neu ysgrifennwch at:
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF