Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych wedi derbyn hysbysiad atafaelu neu os yw eich cerbyd wedi cael ei atafaelu oherwydd yr amheuir ei fod yn cael ei yrru heb drwydded yrru neu yswiriant dilys, ewch i’n tudalen cerbydau wedi'u hatafaelu i gael y wybodaeth gywir.
Yma fe gewch wybodaeth ynglŷn â beth i’w wneud os cafodd eich cerbyd ei roi mewn pownd gan yr heddlu am y rhesymau canlynol:
Os yw eich cerbyd wedi’i bowndio ac yn cael ei gadw yn ein depo adfer byddwch yn derbyn llythyr hysbysu pan fydd yn barod i’w gasglu.
Bydd angen i chi fynd i’r depo adfer er mwyn profi pwy ydych chi ac mai chi sy’n berchen ar y cerbyd a thalu unrhyw daliadau statudol.
Mae hyn yn golygu naill ai:
Ni fyddwn yn derbyn dull adnabod myfyriwr neu gyflogwr.
Mae hyn yn golygu naill ai:
Oni bai bod y cerbyd yn cael ei symud o’r depo adfer ar gerbyd adfer bydd angen iddo gael naill ai:
Os nad oes gennych bolisi yswiriant dilys ni allwch yrru’r cerbyd ar y ffordd. Bydd yn rhaid i chi ei symud o’r depo adfer ar gerbyd achub.
Gallwch ddod o hyd i fanylion llawn y taliadau statudol y bydd yn rhaid i chi eu talu yn Rheoliadau Symud Ymaith, Storio a Gwaredu Cerbydau (Diwygio) 2023.
Ar gyfer cerbydau a atafaelwyd cyn 6 Ebrill 2023 bydd yn rhaid i chi dalu’r taliadau a restrir yn Rheoliadau Symud Ymaith, Storio a Gwaredu Cerbydau (Symiau a Thaliadau Rhagnodedig) 2008.
Pennir y taliadau hyn gan y llywodraeth, nid yr heddlu, ac maent yn amrywio yn dibynnu ar bwysau a chyflwr y cerbyd.
A fyddech cystal â nodi, mae’r taliadau storio dyddiol yn dechrau o hanner dydd ar y diwrnod wedi i’r cerbyd gael ei atafaelu.
Os na allwch fynd i’r depo adfer yn bersonol yna gall rhywun arall gasglu eich cerbyd ar eich rhan.
Rhaid i’r person hwnnw ddod â’r dogfennau a restrir uchod yn ogystal â:
Os ydych eisiau casglu eiddo o’r cerbyd sydd wedi’i bowndio, ond nid y cerbyd ei hun, mae angen i chi ddod â phrawf mai chi yw perchennog neu geidwad cofrestredig y cerbyd (V5C neu V5C/10).
Gall rhywun arall gasglu eiddo ar eich rhan, ond mae angen iddynt ddod â’r canlynol gyda hwy:
A fyddech cystal â nodi, os yw’r cerbyd wedi’i ddifrodi’n wael efallai na fydd modd mynd i mewn iddo er mwyn casglu’r eiddo.
Os rhoddwyd hysbysiad gwahardd PG9 i’ch cerbyd, os nad yw’n addas ar gyfer y ffordd neu os nad yw’n tanio, bydd angen i chi drefnu i weithredwr achub cerbydau wedi’i yswirio a’i hyfforddi’n llawn ac sydd â’r offer priodol i’w gasglu a chi fydd yn gyfrifol am gost.
Nid ydym yn caniatáu i gerbydau gael eu trwsio tra eu bod yn y depo adfer (mae hyn yn cynnwys newid teiars, trwsio ffenestri neu danio â gwifrau).
Dewch â set o allweddi, rhag ofn na adawodd y gyrrwr yr allweddi yn y cerbyd.
Os oedd y cerbyd mewn gwrthdrawiad ac nad ydych yn siŵr a yw’n addas ar gyfer y ffordd, ystyriwch fod gweithredwr achub cerbydau proffesiynol yn ei symud.
Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn mynd â’ch cerbyd i garej er mwyn cael gwiriad diogelwch os ydych yn ei gael yn ôl wedi iddo gael ei ddwyn.
Ni all yr heddlu, na staff y depo adfer, eich cynghori a yw eich cerbyd yn addas ar gyfer y ffordd.
Os nad oes gan eich cerbyd y platiau cofrestru cywir a’ch bod yn bwriadu ei yrru, rhaid i chi ddod â phlatiau eraill dilys pan fyddwch yn ei gasglu.
Os ydych yn gyrru gyda thrwydded dros dro rhaid i chi ddod â pherson gyda chi, sydd:
Gwnewch yn siŵr bod gennych blatiau D neu L ar y cerbyd.
Os nad ydych eisiau hawlio eich cerbyd yn ôl, mae angen i chi fynd i’r depo adfer gyda phrawf adnabod a phrawf perchnogaeth.
Unwaith eich bod yn arwyddo’r ymwadiad cerbyd, fe’i gwaredir ar unwaith, naill ai drwy ei sgrapio neu mewn arwerthiant. Ni fyddwch chi wedyn yn gyfrifol am drethu nac yswirio’r cerbyd.