Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae caethwasiaeth fodern yn drosedd ddifrifol. Mae dioddefwyr yn:
Gall unrhyw un fod yn darged ar gyfer caethwasiaeth fodern. Ond gall rhai pobl fod mewn mwy o berygl oherwydd materion ariannol, cymdeithasol neu iechyd, neu oherwydd eu hoedran neu statws mewnfudo.
Yn aml gall bygythiadau a chosbau fod yn dreisgar, ond nid bob amser. Gallant gynnwys bygwth dweud wrth yr awdurdodau am statws mewnfudo’r dioddefwr fel y byddant yn cael eu halltudio o’r wlad.
Mae caethwasiaeth fodern yn cynnwys masnachu pobl. Dyma pryd yr eir â dioddefwyr o un wlad i’r llall neu o gwmpas gwlad fel y gellir cam-fanteisio arnynt.
Darganfod mwy am fasnachu pobl.
Llafur gorfodol yw pan fydd dioddefwyr yn cael eu bygwth neu eu gorfodi’n gorfforol i weithio yng nghartref neu fusnes rhywun. Gallai troseddwyr hefyd dwyllo eu dioddefwyr trwy addo gwaith go iawn mewn lle neu wlad arall, yna eu gorfodi i gaethwasiaeth ar ôl iddynt gyrraedd.
Hyd yn oed os yw’n ymddangos bod dioddefwr yn cytuno i’r gwaith, gallwn ddal erlyn os nad yw’r gwaith a’r amodau’n dderbyniol. Ni all neb gytuno i ddioddef cam-fanteisio.
Gall dioddefwyr weithio oriau hir iawn am ychydig neu ddim tâl. Maent yn aml yn cael eu cadw ac yn gweithio mewn amodau trychinebus. Fodd bynnag, mae’n dal yn gaethwasiaeth fodern os cedwir y dioddefwr mewn amodau gweddus, ond nad yw’n rhydd i adael neu fyw ei fywyd fel y dymuna.
Gall dioddefwyr gael eu gorfodi i wneud unrhyw fath o waith masnachol. Mae enghreifftiau cyffredin yn cynnwys:
Ond gallant hefyd gael eu gorfodi i weithio yng nghartrefi pobl, gan goginio a glanhau fel caethweision domestig.
Camfanteisio troseddol yw pan fo dioddefwyr yn cael eu gorfodi i gyflawni troseddau fel:
Mae rhai dioddefwyr yn y fasnach gyffuriau yn cael eu gorfodi i weithio fel tyfwyr canabis. Defnyddir eraill i ddosbarthu neu werthu cyffuriau.
Mae llinellau cyffuriau yn un math o gam-fanteisio troseddol. Dyma lle mae pobl fregus, plant yn aml, yn cael eu defnyddio i gludo cyffuriau o ddinasoedd i’w gwerthu mewn trefi cyfagos ac yng nghefn gwlad.
Darganfod mwy am linellau cyffuriau
Mae dioddefwyr yn cael eu gorfodi i wneud gwaith rhyw neu i berfformio gweithredoedd rhywiol yn groes i’w dymuniadau a heb eu cysyniad. Mae hyn yn cynnwys gwaith hebrwng, pornograffi neu greu delweddau anweddus o blant.
Menywod a phlant yw’r rhan fwyaf o ddioddefwyr cam-fanteisio rhywiol, ond gall effeithio ar ddynion hefyd.
Symudir dioddefwyr o un lle i’r llall fel bod modd tynnu rhannau o’u cyrff. Gwerthir y rhain wedyn ar gyfer trawsblaniadau llawfeddygol. Mae rhannau’r corff yn cynnwys meinweoedd ac organau, er enghraifft, yr arennau.
Gall caethwasiaeth fodern ddigwydd yn unrhyw le ac mewn unrhyw sefyllfa. Mae pob achos yn wahanol, ac efallai na fyddant yn cyd-fynd â’r stereoteip o grwpiau o bobl yn cael eu gorfodi i weithio mewn caeau neu ar gychod pysgota.
Gall arwyddion llafur gorfodol a cham-fanteisio troseddol neu rywiol fod yn wahanol iawn. Efallai y bydd dioddefwyr yn edrych yn ddigymorth ac mewn ofn, ond gallant hefyd ymddangos fel pe baent yn derbyn eu sefyllfa, yn gwbl anymwybodol ohoni, neu hyd yn oed yn amddiffyn y bobl sy’n cam-fanteisio arnynt.
Os ydych chi’n meddwl bod caethwasiaeth fodern yn digwydd, dywedwch wrth rywun cyn gynted ag y credwch ei bod yn ddiogel gwneud hynny. Gallai hyn fod yn ymwneud â dioddefwr, rhywun a ddrwgdybir, neu fusnes neu le penodol. Rhoddir ystyriaeth ddifrifol i’ch amheuon bob amser, ac mae amddiffyniad a chefnogaeth ar gael.
Gallwch riportio caethwasiaeth fodern wrthym gan ddefnyddio ein gwasanaeth riportio troseddau ar-lein.
Neu ffoniwch ni ar 101 unrhyw bryd. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun ar 18001 101.
Os ydych chi’n amau bod rhywun mewn perygl ar hyn o bryd, ffoniwch 999 ar unwaith.
I riportio amheuaeth neu i gael cyngor gallwch gysylltu â’r Llinell Gymorth Caethwasiaeth Fodern yn gyfrinachol ar 08000 121 700.
Os ydych am aros yn ddienw gallwch gysylltu â Crimestoppers ar 0800 555 111.
Mae Byddin yr Iachawdwriaeth yn darparu cymorth arbenigol i oedolion sydd wedi goroesi caethwasiaeth fodern yng Nghymru a Lloegr.