Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae rhai pobl yn wynebu mwy o risg o fynd ar goll nag eraill. Gall hyn fod oherwydd eu sefyllfa, er enghraifft:
Rydyn ni bob amser yn argymell cynllunio ymlaen llaw rhag ofn y bydd y person hwnnw'n mynd ar goll. Os byddwch chi'n casglu gwybodaeth amdanyn nhw nawr, gallwch chi roi’r wybodaeth i ni yn gyflym os byddan nhw'n mynd ar goll.
Os ydych chi’n gofalu am rywun â dementia, boed hynny mewn cartref gofal neu yn eu cartref eu hunain, gallwch lenwi ffurflen Protocol Herbert. Bydd y ffurflen yn gofyn ichi roi manylion yr unigolyn, fel eu gorffennol, eu harferion a’r mannau maen nhw'n mynd. Yna os byddan nhw'n mynd ar goll gallwch chi roi’r wybodaeth i ni gan arbed amser cyn inni ddechrau chwilio.
Cyngor i ofalwyr pobl â dementia sy'n wynebu risg o fynd ar goll
Os ydych chi'n nabod rhywun sy'n aelod o Luoedd Arfog Prydain, gallwch ychwanegu eu manylion at y ffurflen Protocol Forcer. Dim ond os bydd y person hwnnw'n mynd ar goll y byddwn ni’n defnyddio'r ffurflen a’r wybodaeth.
Mae gan yr elusen Missing People gyngor a chefnogaeth ar gyfer adegau:
Darllenwch wybodaeth ynghylch pryd mae person sydd ar goll yn dod yn ôl gan gynnwys: