Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae’r rhan fwyaf o bobl sydd ar goll yn cael eu canfod neu’n dychwelyd o fewn yr ychydig ddyddiau cyntaf. Os na fydd rhywun yn dod yn ôl yn gyflym, bryd hynny efallai y byddwch am roi cyhoeddusrwydd i'r achos.
Gallwch osod posteri yn yr ardal leol neu lle’r ydych chi’n meddwl y gallai’r person fod wedi mynd ar goll.
Peidiwch â rhoi eich rhif ffôn eich hun ar bosteri nac ar y cyfryngau cymdeithasol oherwydd efallai y cewch alwadau yn ceisio eich twyllo. Holwch yr heddlu am rif i’w ddefnyddio neu cyd-weithiwch â Missing People a defnyddio eu rhif nhw - 116 000.
Cofiwch, unwaith y bydd stori’n gyhoeddus, gall fod yn amhosibl dileu cyfeiriadau ati ar-lein yn y dyfodol. Gallai hyn effeithio ar y person ar ôl iddo ddychwelyd, os yw pobl eraill yn gwybod ei fod wedi mynd ar goll. Efallai y byddwch yn dewis defnyddio enw cyntaf y person coll yn unig.
Gallech gysylltu â’r papur newydd, yr orsaf radio neu’r orsaf deledu leol i weld a fyddent yn cyhoeddi neu’n darlledu stori am eich achos.
Cofiwch efallai na fyddant yn adrodd y stori yn y ffordd y dymunwch, neu efallai na fyddant yn cyhoeddi’r stori o gwbl. Mae’n bosib y byddan nhw’n cysylltu â phobl eraill i gael gwybodaeth am y person coll.
Os ydych chi’n anhapus â rhywbeth sydd wedi cael ei gyhoeddi neu ag ymddygiad newyddiadurwyr, siaradwch â nhw a gofyn iddyn nhw gywiro neu newid y stori.
Er enghraifft, os yw newyddiadurwyr yn cysylltu â ffrindiau a theulu sydd ddim eisiau gwneud sylw, y peth cyntaf i’w wneud yw gofyn iddynt roi’r gorau iddi.
Os nad ydych chi’n fodlon â’u hymateb, gallwch wneud cwyn i’r Sefydliad Annibynnol Safonau’r Wasg(IPSO) neu'r Swyddfa Gyfathrebiadau (OFCOM) ar gyfer y teledu a’r radio.
Os oes rhywun ar goll am gyfnod hir, dyma rai syniadau ar gyfer cynnal diddordeb yn eich achos:
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cydlynu unrhyw gyhoeddusrwydd gyda ni fel ein bod yn gwybod beth rydych chi’n ei wneud.
Mae gennym staff proffesiynol yn y cyfryngau a all helpu i gydlynu cyhoeddusrwydd a rhoi cyngor ymarferol i chi.
Gallwn hefyd roi cyhoeddusrwydd i’ch achos ar wefan yr heddlu neu ar y cyfryngau cymdeithasol. Byddwn yn sensitif i’ch dymuniadau a dim ond cynnwys gwybodaeth rydych chi’n fodlon ei rhannu.
Weithiau, efallai y byddwn yn awgrymu gweithio gyda ni i wneud apêl ar y cyfryngau/teledu. Os penderfynwch chi gymryd rhan, byddwn yn trafod y camau nesaf gyda chi.
O bryd i’w gilydd, efallai y byddwn yn cynghori yn erbyn unrhyw gyhoeddusrwydd.