Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae gwrandawiadau camymddygiad yn cael eu cynnal i gyflwyno ffeithiau'r achos ac i ganiatáu i'r person esbonio’i ymddygiad a'r amgylchiadau sy'n gysylltiedig â'r honiad. Gall tystion gael eu galw hefyd i roi tystiolaeth.
Diben gwrandawiad cyhoeddus yw dangos bod ein system ddisgyblu yn agored ac yn dryloyw. Bydd yn dangos ein bod yn dal swyddogion sy'n torri safonau ymddygiad proffesiynol, neu'r rhai lle profir bod yna gamymddygiad, yn atebol am eu gweithredoedd.
Gall unrhyw aelod o'r cyhoedd neu'r wasg wneud cais am fynd i wrandawiad camymddygiad, ar yr amod eu bod yn 16 oed neu'n hŷn.
Rydym yn dyrannu lleoedd yn y gwrandawiad ar sail y cyntaf i'r felin. Gallwch wneud cais drwy ddefnyddio’n ffurflen archebu.
I wneud cais am fynd i wrandawiad, gweler y gwrandawiadau sydd yn yr arfaeth a llenwch y ffurflen gyflym a syml. Os oes lle ar gael anfonwn neges ebost atoch i gadarnhau hynny.
Allwn ni ddim ad-dalu unrhyw dreuliau y byddwch yn eu hysgwyddo wrth fynd i wrandawiad.
Weithiau bydd gwrandawiad camymddygiad yn cael ei ganslo ar fyr rybudd. Yn y sefyllfaoedd hyn gwnawn ein gorau i roi gwybod ichi, ond efallai na fydd yn bosibl. Mae'n ddrwg gennym os bydd hyn yn digwydd i chi.
Weithiau, fydd gwrandawiad camymddygiad ddim yn cael ei gynnal yn gyhoeddus, neu ran yn unig fydd yn cael ei chynnal yn gyhoeddus. I benderfynu hyn, mae'r Cadeirydd yn ystyried:
Os bydd y Cadeirydd yn penderfynu na ddylai'r dystiolaeth sydd i'w rhoi gan dyst neu unrhyw un arall gael ei datgelu’n gyhoeddus, fe fydd yn gofyn i'r cyhoedd gael eu symud o'r gwrandawiad.
Gall y sawl sy'n cadeirio gwrandawiad benderfynu gosod amodau penodol ynglŷn â’r gwrandawiad. Gallai'r rhain gynnwys:
Cewch ragor o wybodaeth yng nghanllawiau’r Swyddfa Gartref ar wrandawiadau camymddygiad.
Lle bynnag y bo modd, bydd ein lleoliadau yn cynnwys mynedfeydd a chyfleusterau i bobl anabl ond does dim modd gwarantu hyn. Rhowch wybod inni ymlaen llaw am eich anghenion ac fe geisiwn wneud trefniadau ar eich cyfer, neu roi gwybod i chi os na allwn ni
Gall aelodau o’r cyhoedd fynd i wrandawiadau apeliadau fel sylwedyddion ond nid ydynt yn cael cymryd rhan yn y trafodion.