Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael a bydd angen eu harchebu ymlaen llaw, o leiaf ddau ddiwrnod gwaith cyn y gwrandawiad.
Nodwch hefyd y wybodaeth ganlynol am fynychu gwrandawiad:
- Rhaid i chi ddangos prawf adnabod ffotograffig a chewch eich gwahardd o'r gwrandawiad os byddwch yn methu â gwneud hynny
- Os na fyddwch wedi cofrestru i fynychu'r gwrandawiad ymlaen llaw, caiff mynediad ei wrthod
- Byddwch yn mynychu'r gwrandawiad yn eich amser eich hun ac ar eich traul eich hun
- Ni chewch barcio ar safle'r heddlu
- Ni ddarperir lluniaeth ac ni chewch fynd â bwyd a diod i mewn i ystafell y gwrandawiad
- Mae'n bosibl na chaiff unrhyw un y credir ei fod yn peri risg sylweddol i ddiogelwch yr Heddlu fynediad i safle'r heddlu ac y gallai'r rhai sy'n bresennol gael eu chwilio os teimlir bod angen gwneud hynny
- Ni chewch wneud recordiad fideo na sain oni fydd Cadeirydd y gwrandawiad yn caniatáu hynny'n benodol
- Gellir gofyn i unrhyw un sy'n ymddwyn mewn ffordd sy'n tarfu ar yr achos, neu sy'n debygol o wneud hynny, adael y gwrandawiad
- Yn ôl disgresiwn y Cadeirydd, mae'n bosibl y gofynnir i chi adael yn ystod rhan o'r gwrandawiad, gan fod y rheolau sy'n llywodraethu'r broses o gynnal achosion yn caniatáu i'r gwrandawiad cyfan, neu ran ohono, beidio â chael ei gynnal yn gyhoeddus
- Ni all unigolion dan 16 oed fynychu'r gwrandawiad
- Ni chaniateir anifeiliaid yn y gwrandawiad, heblaw am gŵn tywys/cŵn cymorth
- Lle y bo'n bosibl, dewisir lleoliadau sy'n gwbl hygyrch i bobl anabl, ond ni ellir gwarantu hyn
- Mae'r Heddlu yn cadw'r hawl i wrthod mynediad pan fydd nifer cyfyngedig o leoedd o ganlyniad i faint y lleoliad. Gall yr Heddlu hefyd gynnig lleoedd i aelodau o'r cyhoedd nad ydynt wedi mynychu gwrandawiad o'r blaen dros y rheini sydd eisoes wedi gwneud hynny.
- Dim ond ar ddiwrnodau gorffwys neu pan na fyddant ar ddyletswydd y caniateir i swyddogion a staff Heddlu De Cymru fynychu gwrandawiadau
Os oes gennych unrhyw ymholiadau nad yw'r uchod yn ymdrin â nhw, anfonwch ebost i'r Swyddfa'r Wasg.