Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os ydych chi eisiau bod yn berchen ar arf tanio neu ddryll, mae angen ichi wneud cais am dystysgrif.
Bydd angen ichi:
Os oes gennych chi dystysgrif yn barod, ond bod honno wedi dod i ben, rhaid ichi wneud cais am dystysgrif newydd.
Gallwch ddefnyddio'r broses ymgeisio hon hefyd i adnewyddu tystysgrif sy'n bodoli eisoes.
Nodweddion y gwn sy’n diffinio'r dystysgrif, nid ei enw.
| Y math o wn | Priodweddau | Tystysgrif arf tanio | Tystysgrif dryll |
| Arf tanio | Baril rhigoledig, yn saethu bwledi neu getris |
✓ | |
| Dryll neu fysged | Baril llyfn, yn saethu cetris neu getris gwag |
✓ | |
| Dryll aml-ergyd | Yn gallu dal mwy na thair cetrisen |
✓ | |
| Reiffl aer | Egni cinetig o fwy na 12 troedfedd y pwys |
✓ |
Mae yna amgylchiadau lle cewch saethu heb dystysgrif.
Rhagor o wybodaeth am gyfraith trwyddedu arfau tanio yn y Deyrnas Unedig.
Mae yna gyfyngiadau oedran ar gyfer tystysgrifau arf tanio a thystysgrif dryll. Gwiriwch y rhain cyn dechrau eich cais.
Gallwch wneud cais am dystysgrif bum mlynedd ar ôl eich dyddiad rhyddhau os:
Gallwch wneud cais am dystysgrif bum mlynedd o’r ail ddiwrnod ar ôl cael eich dedfrydu os:
Ni allwch wneud cais am dystysgrif os:
Cyn ichi ddechrau ar eich cais, mae yna bethau y bydd angen eu paratoi ymlaen llaw:
Bydd angen i chi ddarparu llun pasbort ohonoch chi’ch hun.
Rhaid i’ch ffotograff chi:
Rhaid ichi:
Rhaid defnyddio llun digidol ar gyfer ceisiadau ar-lein.
Rhaid i'ch llun digidol:
Byddwn yn gofyn ichi roi manylion dau ganolwr.
Bydd angen i chi ddarparu:
Cyn ichi wneud cais, mae angen i chi:
Eich manylion cysylltu, gan gynnwys:
I gael gwybodaeth am sut rydyn ni’n trin data, darllenwch ein nodiadau cyfarwyddyd ynghylch gwneud cais.
Bydd angen ichi ddarparu'r wybodaeth ganlynol:
Sylwer: Mae'r ffurflen lawrlwytho profforma'ch meddyg teulu ar gael yn Saesneg yn unig ar hyn o bryd. Cyhoeddir fersiynau Cymraeg cyn gynted ag y cânt eu derbyn gan y Swyddfa Gartref. Os oes angen cymorth arnoch i lenwi'r ffurflenni yn y Gymraeg, cysylltwch â'r tîm arfau tanio.
Os ydych chi’n gwneud cais am dystysgrif arf tanio, byddwn yn gofyn i chi roi:
Byddwn ni’n gofyn ichi roi manylion am unrhyw un neu ragor o’r canlynol:
Byddwn yn gofyn am y dyddiad (y mis a’r flwyddyn).
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch nodiadau cyfarwyddyd y cais.
Os ydych yn storio eich arf tanio neu ddryll gartref, byddwn yn gofyn am fanylion unrhyw un a allai fod â mynediad heb oruchwyliaeth. Er enghraifft, teulu neu lanhawyr.
Bydd angen i chi roi eu:
Byddwn yn gofyn ichi roi manylion unrhyw dir preifat neu glwb cofrestredig lle byddwch chi’n defnyddio’ch arf tanio.
Tir preifat
Bydd angen i chi ddarparu:
Clwb saethu
Bydd angen ichi ddarparu:
Os ydych chi’n adnewyddu, bydd angen ichi ddarparu copi llawn o'ch tystysgrif(au) presennol, gan gynnwys tabl un a dau.
Defnyddiwch ein gwasanaeth gwneud cais i ddechrau. Bydd yn dweud wrthoch chi sut i wneud cais, faint y bydd angen ichi ei dalu a pha mor hir y bydd yn ei gymryd i gael tystysgrif.
Os ydych chi wedi cyflwyno’ch cais ar-lein, gallwch lawrlwytho copi ar gyfer eich cofnodion eich hun.
Byddwn yn cynnal gwiriadau cefndir. Mae hyn yn cynnwys cysylltu â chanolwyr ac, os yw'n berthnasol, eich meddyg teulu.
Byddwn ni hefyd yn asesu’ch addasrwydd i gael tystysgrif. Fel rhan o'r asesiad, bydd swyddog ymholiadau arfau tanio (FEO) yn cyfweld â chi yn eich cyfeiriad cartref.
Pan fyddwn ni wedi penderfynu ar eich cais, byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod ichi am y canlyniad.