Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
1. Anffurfio organau cenhedlu benywod (FGM) |
2. Sut i riportio FGM |
3. Sefydliadau cymorth FGM |
Os ydych chi'n amau bod rhywun wedi cyflawni FGM, neu'n meddwl bod rhywun rydych chi'n eu hadnabod wedi dioddef, neu y gallai ddioddef yn fuan, mae sawl ffordd y gallwch riportio’r peth.
A oes rhywun mewn perygl ar hyn o bryd? A oes trosedd yn cael ei chyflawni neu a oes un newydd ddigwydd? Os felly, ffoniwch 999 nawr a gofynnwch am yr heddlu. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu tecstiwch ni ar 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys.
Os hoffech chi riportio ar-lein, gallwch ddefnyddio’n gwasanaeth riportio troseddau ar-lein sy’n ddiogel ac yn gyfrinachol.
Mae pob adroddiad a wneir drwy ddefnyddio'r gwasanaeth hwn yn cael ei adolygu gan ein canolfan gysylltu 24/7 o fewn ychydig oriau a bydd rhywun yn cysylltu â chi mewn dau ddiwrnod fan bellaf (ond yn gyflymach fel arfer).
Os hoffech chi siarad â rhywun, mae’n rhif ffôn cenedlaethol pan nad oes argyfwng yn cael ei staffio 24/7. Ffoniwch ni ar 101 a riportiwch yr hyn a ddigwyddodd neu gofynnwch am gyngor.
Os hoffech chi siarad â rhywun yn bersonol, gallwn ddarparu amgylchedd diogel a chyffyrddus yn unrhyw un o'n gorsafoedd heddlu.
Os ydych yn weithiwr proffesiynol a reoleiddir, megis gweithiwr iechyd, gweithiwr cymdeithasol neu athro/athrawes, mae’n ofynnol i chi yn ôl y gyfraith i riportio unrhyw achosion ‘hysbys’ o FGM yn uniongyrchol wrth yr heddlu ar ein rhif di-argyfwng 101. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18001 101.
Mae ‘hysbys’ yn golygu eich bod naill ai wedi canfod yn weledol bod FGM wedi’i gyflawni, neu eich bod wedi cael datgeliad ar lafar gan y ferch yr effeithiwyd arni.
Os byddai'n well gennych siarad â rhywun arall cyn riportio’r peth i'r heddlu, gallwch gysylltu â’r canlynol:
Os ydych chi'n blentyn, fe allech chi hefyd siarad â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo, fel ffrind, athro/athrawes neu oedolyn arall a gofyn iddyn nhw riportio’r peth ar eich rhan a'ch helpu chi.