Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae amseroedd gollwng a chasglu plant yn brysur y tu allan i ysgolion. Gall hyn achosi mwy o risg diogelwch i blant a rhieni.
Mae cyfyngiadau parcio y tu allan i ysgolion yno i’ch cadw chi a’ch plant yn ddiogel. Gall parcio’n anystyriol roi pobl mewn perygl a gallwch hefyd gael dirwy. Mae’n bwysig bod modurwyr yn dilyn Rheolau'r Ffordd Fawr.
Mae gan y rhan fwyaf o fynedfeydd ac allanfeydd ysgolion yn y DU linellau ffordd igam-ogam melyn gyda’r geiriau ‘Ysgol Cadwch yn Glir’ neu ‘School Keep Clear’.
Mae llinellau igam-ogam i’w gweld hefyd wrth fynedfeydd ac allanfeydd ysbytai, gorsafoedd tân, gorsafoedd heddlu a gorsafoedd ambiwlans. Maent yn nodi’r rhan o’r ffordd lle na ddylai modurwyr aros, stopio na pharcio cerbyd.
Weithiau gall fod arwydd yn cyd-fynd â’r llinellau sy’n dangos adegau penodol pan fydd y cyfyngiadau hyn mewn grym. Mae gan fodurwyr hawl cyfreithiol i barcio ar y llinellau igam-ogam y tu allan i’r oriau hyn.
Mae llinellau igam-ogam melyn a gwyn hefyd yn dangos mannau sy’n rhaid eu cadw’n glir fel bod plant a defnyddwyr eraill y ffordd yn gallu gweld yn glir wrth groesi.
Gallwch barcio’n gyfreithlon ar linellau igam-ogam melyn o dan rai amgylchiadau.
Mae llinellau igam-ogam melyn heb arwyddion gyda hwy yn dweud wrth fodurwyr am beidio ag aros na pharcio yno ar unrhyw adeg er diogelwch plant a phobl eraill. Gallwn, a byddwn yn, rhoi tocynnau am barcio arnynt, ar sail achosi rhwystr i fodurwyr neu gerddwyr eraill.
Mae gan rai farciau igam-ogam melyn linell felen sengl neu ddwbl, sy’n dynodi gwahanol gyfyngiadau parcio.
Gallwch ddysgu rhagor yn:
Rheolau'r Ffordd Fawr - Aros a pharcio
Rheolau'r Ffordd Fawr - Marciau Ffyrdd
Yn gyfreithiol gallwch barcio gyferbyn â llinellau igam-ogam melyn. Fodd bynnag, gall hyn wneud croesi’r ffordd yn fwy peryglus, yn enwedig i blant. Mae gan rai ysgolion linellau igam-ogam melyn ar ddwy ochr y ffordd am y rheswm hwn.
Wrth ollwng neu gasglu plant mewn ysgolion, dylech wneud y canlynol:
Gall cynghorau lleol roi Hysbysiadau Tâl Cosb (PCN) i fodurwyr am aros, stopio neu barcio ar linellau igam-ogam melyn os oes cyfyngiadau mewn grym. Rhoddir y rhain gan swyddogion gorfodi sifil.
Mae’r rhan fwyaf o ddirwyon parcio neu aros bellach yn cael eu gorfodi fel mater sifil, yn hytrach na mater i’r heddlu. Nid yw PCN yn arwain at gofnod troseddol neu bwyntiau ar drwydded os yw’r cyngor yn delio a’r mater.
Mewn rhai ardaloedd nid oes gan y cyngor lleol bwerau gorfodi parcio sifil. Yn yr ardaloedd hyn mae parcio’n cael ei orfodi gennym ni neu gan wardeniaid traffig a gyflogir gan yr heddlu a fydd yn rhoi hysbysiad cosb benodedig (FPN). Gorfodir y rhain drwy’r system cyfiawnder troseddol.
Gall dirwyon amrywio yn dibynnu ar y lleoliad. Bydd stopio mewn ardal â chyfyngiadau y tu allan i ysgol yn arwain at ddirwy uwch. Mae’r ffi hefyd yn cael ei haneru os caiff ei thalu o fewn 14 diwrnod ac mae gennych 28 diwrnod i dalu neu herio’r ddirwy.
Dysgu rhagor am faterion parcio eraill a cherbydau wedi'u gadael