Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
1. Beth yw annog neu gynorthwyo hunan-niweidio difrifol? |
2. Beth gallwch chi ei wneud: riportio’r peth i ni |
3. Riportio i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol os digwyddodd y peth ar-lein |
4. Help a chymorth |
Annog neu gynorthwyo hunan-niweidio difrifol yw pan fydd rhywun yn ceisio’ch perswadio i niweidio'ch hun neu'n eich helpu i niweidio'ch hun.
Mae trosedd o'r enw 'niwed corfforol difrifol' yn cael ei ddefnyddio i asesu lefel y niwed sy'n cael ei annog.
Mae hyn yn golygu anafiadau i chi'ch hun fel torri esgyrn, toriadau dwfn i'r croen neu anffurfiad. Mae niwed difrifol arall, fel newynu, yn cael ei ystyried hefyd.
Does dim rhaid i'r niwed corfforol fod yn barhaol.
Gall ddigwydd ar-lein neu all-lein a gall gynnwys pethau fel:
Mae'n dal yn drosedd hyd yn oed os na fyddwch chi'n niweidio'ch hun mewn gwirionedd, er gwaethaf y pwysau neu'r anogaeth.
Dyw hyn ddim yn golygu eich annog i roi cynnig ar hunanladdiad, er bod hynny'n drosedd hefyd.
Efallai na fyddwch chi’n siŵr pwy sy’n gwneud hyn neu pam. Dyw hynny ddim yn bwysig. Rydych chi’n dal yn gallu riportio’r peth i ni a byddwn ni’n penderfynu sut i fynd ar ôl y manylion y byddwch chi’n eu rhoi.
Nesaf: Beth gallwch chi ei wneud: riportio’r peth i ni