Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn yr adran hon:
1. Beth yw rhannu gwybodaeth ffug? |
2. Beth gallwch chi ei wneud: riportio’r peth i ni |
3. Riportio i gwmnïau cyfryngau cymdeithasol os digwyddodd y peth ar-lein |
4. Help a chymorth |
Rhannu gwybodaeth ffug yw pan fydd rhywun yn creu neu'n rhannu gwybodaeth maen nhw'n gwybod ei bod yn ffug a'u bod yn ei dosbarthu er mwyn achosi niwed difrifol.
Gallai’r wybodaeth ffug gael ei hanfon atoch chi neu at grŵp o bobl, fel grŵp Facebook neu WhatsApp, gallai gael ei phostio ar ap neu fforwm yn y cyfryngau cymdeithasol, neu ei hargraffu ar boster neu daflen.
Gallai gynnwys pethau fel:
Weithiau mae gwybodaeth ffug yn cael ei galw’n 'newyddion ffug', 'twyllwybodaeth' neu 'camwybodaeth’. Y peth sy'n gwneud rhannu gwybodaeth ffug yn drosedd yw os oes rhywun yn gwybod bod yr wybodaeth maen nhw'n ei chreu neu'n ei rhannu yn ffug a'u bod nhw’n ei rhannu gyda'r bwriad o achosi niwed corfforol neu feddyliol difrifol. Hyd yn oed os mai dim ond unwaith y bydd yn digwydd, mae'n dal yn drosedd.
Efallai na fyddwch chi’n siŵr pwy anfonodd yr wybodaeth ffug neu beth oedd eu bwriad nhw wrth anfon. Dyw hynny ddim yn bwysig. Rydych chi’n dal yn gallu riportio’r peth i ni a byddwn ni’n penderfynu sut i fynd ar ôl y manylion y byddwch chi’n eu rhoi.
Nesaf: Beth gallwch chi ei wneud: riportio’r peth i ni