Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Menter blismona genedlaethol yw Ymgyrch Tutelage i leihau nifer y gyrwyr sy’n gyrru heb yswiriant.
Os bydd cerbyd yn cael ei weld ar y ffordd a bod systemau'r heddlu a'r gronfa ddata yswiriant modur yn dangos nad yw wedi'i yswirio, mae llythyr yn cael ei anfon at y ceidwad cofrestredig yn ei annog i yswirio'r cerbyd.
Mae’r llythyr yn annog y ceidwad cofrestredig i edrych i weld a oes problem ynglŷn ag yswiriant y cerbyd, ac i gywiro pethau.
Y gosb am y drosedd o yrru cerbyd heb yswiriant yw cosb benodedig o £300 a chwe phwynt cosb ar eich trwydded neu, os aiff yr achos i'r llys, fe allech gael dirwy ddiderfyn a chael eich anghymhwyso rhag gyrru.
Os ydych chi'n credu eich bod wedi cael llythyr gan Ymgyrch Tutelage drwy gamgymeriad:
Ymgyrch Tramline yw prosiect cenedlaethol Priffyrdd Lloegr ynghylch diogelwch cerbydau nwyddau trwm (HGVs) ar y ffyrdd.
Nod yr ymgyrch yw lleihau nifer y bobl sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar y ffyrdd.
Y tair trosedd fwyaf cyffredin a nodwyd gan yr ymgyrch yw defnyddio ffôn symudol, troseddau gwregys diogelwch, a diffyg rheolaeth briodol dros y cerbyd.
Mae Gwylio Cyflymder Cymunedol yn fenter genedlaethol lle mae aelodau o gymunedau lleol, gyda chymorth a goruchwyliaeth eu heddlu lleol, yn cofnodi manylion cerbydau sy'n goryrru, gan ddefnyddio dyfeisiau synhwyro a gymeradwywyd.
Cysylltir â cheidwaid cofrestredig cerbydau sy'n torri'r terfyn cyflymder drwy anfon llythyr yn esbonio risgiau a chanlyniadau posibl eu hymddygiad peryglus.
Mae troseddwyr mynych yn cael ymweliad gan yr heddlu lleol ac fe allen nhw wynebu erlyniad troseddol.
Bwriad Ymgyrch Close Pass yw targedu modurwyr sy'n anwybyddu Rheolau’r Ffordd Fawr ynghylch goddiweddyd beicwyr.
Mae'r ymgyrch yn defnyddio swyddog heddlu mewn dillad plaen ar gefn beic (gyda chamera fideo) i chwilio am fodurwyr nad ydyn nhw’n gadael y lle angenrheidiol wrth basio beicwyr.
Os caiff modurwyr eu gweld sy’n methu gadael y lle priodol, yna bydd yr heddlu'n ymyrryd ac yn cymryd camau priodol.