Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ymunwch â’r cannoedd o wirfoddolwyr sydd eisoes yn helpu’r elusen annibynnol hon sy’n ymladd troseddau. Gallech gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys trefnu ciniawau codi arian a datblygu ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd er mwyn dal troseddwyr yn eich ardal.
Sut i wirfoddoli gyda Crimestoppers
Mae gan yr holl heddluoedd ledled y wlad rolau gwirfoddoli. Gallech fod yn gweithio ochr yn ochr â ni mewn gweithgareddau sy’n amrywio o gefnogi dioddefwyr troseddau casineb i reoli digwyddiadau cymunedol a siarad ag ysgolion a busnesau lleol. Mae gwirfoddolwyr yn darparu cefnogaeth hollbwysig i ni ac yn gweithio yn eu hamser eu hunain a gyda’u cymuned eu hunain.