Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae troseddau ffiniau yn peri niwed mawr iawn i’r DU, boed hynny’n smyglo pobl, cyffuriau neu arfau tanio, neu droseddau’n ymwneud â therfysgaeth.
Mae miloedd o awyrennau ysgafn, hofrenyddion ac awyrennau ‘microlight’ yn y DU, sy’n hedfan i mewn ac allan o feysydd awyr bach ledled y wlad bob dydd.
Gan na ellir monitro pob awyren a llain lanio 24 awr y dydd, gall y diwydiant hedfan, cymunedau sy’n byw ac yn gweithio yn agos at feysydd awyr a gwylwyr awyrennau brwd chwarae rhan hollbwysig mewn atal troseddau a chynnal cymuned ddiogel.
Menter a sefydlwyd i gael pobl sy’n gweithio yn y diwydiant hedfan neu sy’n byw yn agos at faes awyr i ymuno yn y frwydr yn erbyn troseddau trefnedig a therfysgaeth yw Prosiect Pegasus.
Os ydych chi’n amau gweithgarwch terfysgol posibl yna gallwch riportio gweithgarwch terfysgol posibl ar-lein, ar y Llinell Frys Gwrthderfysgaeth 0800 789 321, neu os ydych chi’n amau perygl ar y pryd, symudwch i ffwrdd a ffoniwch 999. Os oes gennych nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, defnyddiwch ein gwasanaeth ffôn testun 18000 neu anfonwch neges destun atom ar 999 os ydych wedi cofrestru ymlaen llaw gyda’r gwasanaeth SMS brys.
Os byddai’n well gennych riportio’n ddienw, ffoniwch Taclo’r Taclau ar 0800 555 111. Dyfynnwch 'Pegasus'.
Cofiwch: peidiwch â rhoi eich hun mewn sefyllfa beryglus neu gymryd unrhyw risgiau; peidiwch â herio rhywun rydych yn ei amau. Riportiwch hynny wrthym ni cyn gynted ag y gallwch.
Gwybodaeth a fydd yn ddefnyddiol i ni (ond peidiwch â rhoi eich hun mewn sefyllfa beryglus er mwyn cael y wybodaeth):