Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n gallu bod yn anodd riportio sbeicio. Rydyn ni’n deall bod llawer o resymau pam mae pobl yn dewis peidio â riportio, a chi biau’r dewis bob amser. Ac os ydych chi’n barod, dyma sut mae riportio sbeicio.
Os nad ydych chi'n siŵr beth i'w wneud, efallai y bydd yr wybodaeth ar y dudalen hon yn eich helpu i benderfynu a yw riportio yn addas i chi. Rydyn ni yma i chi a byddwn yn gofalu amdanoch beth bynnag rydych chi’n penderfynu ei wneud.
Dyma rai o’r rhesymau pam mae pobl yn penderfynu riportio sbeicio.
Efallai na fydd yr un o’r rhain yn berthnasol i chi. Mae pob penderfyniad i roi gwybod neu beidio yn un personol.
Os byddwch chi’n penderfynu riportio i ni, fyddwn ni ddim yn eich beirniadu am ble roeddech chi pan gawsoch eich sbeicio. Neu am yfed alcohol neu gymryd cyffuriau anghyfreithlon o’ch gwirfodd.
Mae angen cymorth meddygol brys ar rai pobl ar ôl i rywun eu sbeicio. Ond dydy pawb ddim. Mae pawb yn ymateb ac yn ymdopi yn ei ffordd ei hun. Does dim ffordd gywir neu anghywir o deimlo.
Pwy bynnag ydych chi a beth bynnag a ddigwyddodd i chi, mae gennych chi’r un hawl i gael eich clywed ac i gael cyfiawnder â phawb arall.
Gallwch ddweud wrthym am sbeicio heb ddweud wrthym pwy ydych chi na rhoi eich manylion cyswllt.
Gall yr adroddiadau hyn ein helpu i rwystro pobl rhag cael eu sbeicio yn y dyfodol.
Gallwch bob amser roi eich manylion i ni yn nes ymlaen os byddwch yn newid eich meddwl.
Rydyn ni’n deall efallai na fyddwch chi’n siŵr a gawsoch eich sbeicio. Neu nad ydych yn cofio ble na phryd y gallai fod wedi digwydd. Mae hynny’n iawn.
Gallwch ddweud wrthym eich bod yn meddwl bod rhywun wedi eich sbeicio. Hyd yn oed os nad ydych chi’n meddwl bod unrhyw dystiolaeth, neu nad ydych eisiau i ni ymchwilio i’r mater, neu nad ydych eisiau rhoi sampl wrin na sampl gwaed ar gyfer profion fforensig. Chi sy’n rheoli pethau.
Peidiwch â phoeni os nad ydych chi’n gwybod a oedd unrhyw dystion neu gamerâu teledu cylch cyfyng. Ni fydd yn ymchwilio i hynny ar eich rhan.
Ni waeth beth yw eich statws mudo, os byddwch yn riportio sbeicio neu drosedd arall i ni, byddwn yn eich trin fel rhywun sydd wedi goroesi a dioddef trosedd yn y lle cyntaf.
Ond efallai y byddwn yn canfod yn ystod yr ymchwiliad eich bod yn y wlad yn anghyfreithlon. Efallai y byddwn yn rhannu gwybodaeth â’r adran Gorfodi Mewnfudo, a fydd yn penderfynu beth i’w wneud.
Gall hyn fod yn destun pryder. Rydyn ni’n credu ei bod hi’n bwysig dweud wrthych am y posibilrwydd i hyn ddigwydd er mwyn i chi allu gwneud dewis gwybodus ynghylch beth i’w wneud. Gallwch riportio'n ddienw i ni os yw hynny’n well gennych chi.
Os byddwch chi’n riportio sbeicio i ni, bydd ein hymchwiliad yn canolbwyntio ar ganfod pwy wnaeth hynny a dod â nhw o flaen eu gwell.
Byddwn hefyd yn gweithio gyda’r lleoliad i ddeall sut y digwyddodd hyn a sut y gallwn ni eu helpu i atal hyn rhag digwydd eto.
Hoffem wybod am unrhyw achos sbeicio, ni waeth faint o amser sydd wedi mynd heibio ers hynny. Does dim terfyn amser i riportio sbeicio a does dim ots os na allwch gofio’r holl fanylion.
Ond gall prawf fforensig ganfod a yw rhywun wedi eich sbeicio. Dim ond yr heddlu sy’n gallu cynnal prawf fforensig y gallwn ei ddefnyddio fel tystiolaeth os byddwn yn dod o hyd i'r sawl oedd wedi’ch sbeicio. Ond chi sy'n penderfynu a ydych am roi sampl. Os ddim, mae hynny’n iawn.
Gall rhai cyffuriau adael eich corff o fewn 12 awr neu’n llawer cynt, ond gallwn ganfod dwsinau o gyffuriau eraill am hyd at saith diwrnod. Po gyntaf y byddwch chi’n riportio i ni ac yn rhoi sampl wrin neu sampl gwaed ar gyfer y profion fforensig, y mwyaf dibynadwy y bydd canlyniad y prawf yn debygol o fod.
Gallwch ddweud wrthym am sbeicio hyd yn oed os nad ydych chi eisiau cymryd rhan mewn prawf fforensig a'r ymchwiliad. Ac os oes mwy na saith diwrnod wedi mynd heibio ers iddo ddigwydd, efallai y byddwn yn dal i allu ymchwilio a chasglu tystiolaeth.
Rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni’n casglu tystiolaeth
Os ydych chi’n riportio sbeicio i ni, gallwch hefyd ddweud wrthym am unrhyw droseddau eraill a ddigwyddodd ar ôl i rywun eich sbeicio. Er enghraifft, ymosodiad rhywiol neu ladrad.
Dydy’r rhan fwyaf o achosion sbeicio ddim yn arwain at ymosodiad rhywiol neu ladrad. Ond mae sbeicio’n anghyfreithlon ac yn cario dedfryd o garchar, hyd yn oed os na ddigwyddodd unrhyw drosedd arall. Rydyn ni’n cymryd unrhyw achos sbeicio o ddifrif.