Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Os digwyddodd yr achos sbeicio yn ddiweddar, efallai y bydd tystiolaeth a allai helpu i ddod o hyd i’r sawl oedd wedi eich sbeicio.
Efallai y bydd rhywfaint o’r dystiolaeth hon yn cael ei defnyddio yn y llys, os gallwn enwi a dod o hyd i’r sawl oedd wedi eich sbeicio. Rydyn ni'n galw hyn yn ‘dystiolaeth fforensig’.
Gall tystiolaeth fforensig gynnwys:
Os ydych chi’n credu bod trais neu ymosodiad rhywiol wedi digwydd hefyd, darllenwch fwy am dystiolaeth fforensig a allai helpu’r achos.
Os ydych chi wedi cael eich sbeicio yn y saith diwrnod diwethaf
Os ydych chi’n dweud wrthym eich bod yn credu bod rhywun wedi eich sbeicio, efallai y byddwn yn gofyn i chi roi sampl wrin neu sampl gwaed ar gyfer prawf fforensig.
Dim ond yr heddlu sy’n gallu gwneud prawf fforensig, oni bai bod rhywun wedi ymosod arnoch chi’n rhywiol a’ch bod chi’n mynd i ganolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol (SARC) lle gallan nhw wneud y profion fforensig hyn hefyd, yn ogystal â rhoi cymorth arbenigol i chi.
Gall canlyniad y prawf yma gael ei ddefnyddio mewn tystiolaeth os byddwn yn canfod pwy wnaeth eich sbeicio.
Mae rhai cyffuriau’n gadael y corff o fewn 12 awr neu’n llawer cynt. Os byddwch yn rhoi gwybod i ni cyn gynted â phosibl, gallwn gymryd sampl y gellid ei ddefnyddio ar gyfer prawf. Ond mae llawer o gyffuriau eraill yn aros yn y corff am lawer hirach, felly efallai y byddwn yn gallu gwneud prawf hyd at saith diwrnod ar ôl y digwyddiad.
Y prawf rydyn ni’n ei ddefnyddio yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddarganfod a yw rhywun wedi eich sbeicio. Gall ganfod mwy na chan math gwahanol o gyffuriau.
Os oes rhywun wedi eich sbeicio ag alcohol, mae ffyrdd eraill y gallwn ymchwilio i’r hyn a ddigwyddodd i chi.
Os ydych chi’n rhoi gwybod am sbeicio o fewn saith diwrnod, bydd swyddog yn ymweld â chi ble bynnag ydych chi i roi cynhwysydd di-haint i chi ar gyfer y sampl wrin. Efallai y bydd meddyg yn dod gyda nhw i gymryd sampl gwaed.
Lle bo modd, byddwn yn gwneud ein gorau glas i anfon swyddog sy’n briodol i’ch rhyw, ond ni allwn warantu hyn. Ein blaenoriaeth yw anfon swyddog atoch cyn gynted â phosibl.
Os ydych chi wedi mynd i ganolfan atgyfeirio ymosodiadau rhywiol (SARC), gyda'ch cydsyniad chi fe fyddwn ni’n cymryd y profion fforensig sydd arnon ni eu hangen pan fyddwch chi yno, neu gallwch ofyn i'r SARC gymryd y samplau fforensig hyn.
Ond er bod profion fforensig yn gallu dweud wrthych chi a ni a yw rhywun wedi eich sbeicio, chi sy’n rheoli pethau. Os nad ydych chi eisiau rhoi sampl gwaed neu wrin ar gyfer profion fforensig, mae hynny'n iawn. Rydyn ni dal eisiau clywed gennych chi.
Os ydych chi’n dweud wrth yr heddlu faint rydych chi wedi’i yfed a p’un a ydych chi wedi cymryd meddyginiaeth anghyfreithlon neu bresgripsiwn o’ch gwirfodd, byddwn yn gallu rhoi canlyniad mwy cywir.
Nid yw’n drosedd cael cyffuriau anghyfreithlon yn eich system oni bai eich bod yn gyrru. Felly peidiwch â gadael i hyn eich rhwystro rhag rhoi gwybod am sbeicio. Fyddwch chi ddim mewn trwbl a fyddwn ni ddim yn eich beirniadu.
Os oes mwy na saith diwrnod wedi mynd heibio ers i chi gael eich sbeicio
Os oes mwy na saith diwrnod wedi mynd heibio ers i chi gael eich sbeicio, byddwn yn dal yn falch petaech yn rhoi gwybod amdano. Efallai y byddwn yn dal i allu ymchwilio i’ch achos a chasglu tystiolaeth. A byddwn yn gallu cynnig unrhyw gymorth y gall fod ei angen arnoch. Efallai y bydd eich adroddiad hefyd yn ein helpu i ganfod patrwm o achosion sbeicio.
Efallai y bydd staff yr ysbyty neu barafeddygon yn rhoi prawf i chi er mwyn helpu i benderfynu ar y ffordd orau o drin eich symptomau. Ond nid bwriad y prawf hwn yw dangos at ddibenion plismona pa gyffuriau penodol a ddefnyddiwyd i’ch sbeicio.
Os ydych chi’n cael prawf mewn ysbyty neu gan eich meddyg teulu, bydd hefyd angen i chi gael prawf fforensig yr heddlu. Hwn sy'n gallu cael ei ddefnyddio fel tystiolaeth i gefnogi cyhuddiadau neu euogfarnau.
Mae rhai lleoliadau'n cynnig pecynnau profi diodydd cyflym. Neu efallai y byddwch wedi prynu rhai eich hunan. Weithiau gall y rhain fod yn ddangosydd cynnar defnyddiol fod rhywun wedi eich sbeicio. Ond efallai na fyddant yn canfod yr holl sylweddau a ddefnyddir i sbeicio, a gallant roi canlyniadau positif neu negatif ffug.
Os ydych chi’n dweud wrthym am achos sbeicio sydd wedi digwydd yn ystod y saith diwrnod diwethaf, efallai y byddwn yn gofyn i chi roi sampl wrin ar gyfer prawf fforensig. Efallai y bydd swyddog heddlu yn ymweld â chi ac yn cymryd sampl wrin.
Os ydych chi wedi pasio dŵr yn barod, peidiwch â phoeni, rydyn ni'n deall. Mae’n dal yn bosibl i ni gymryd sampl.
Er bod profion fforensig yn gallu dweud wrthych chi a ni a yw rhywun wedi eich sbeicio, chi sy’n rheoli pethau. Os nad ydych chi eisiau rhoi sampl wrin, mae hynny'n iawn.
Pan fyddwch yn rhoi gwybod i’r heddlu am achos sbeicio, byddwn yn gofyn i chi a ydych yn credu bod unrhyw dystiolaeth arall. Er enghraifft, gwydr, nodwydd neu luniau teledu cylch cyfyng.