Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Pan fydd trosedd yn digwydd efallai y bydd tystiolaeth fforensig neu olion bysedd y gallwn eu casglu. Efallai y bydd y sawl sy’n gyfrifol am y drosedd wedi cyffwrdd ag arwynebau, wedi symud eitemau, neu wedi gadael gwaed.
Mae’n bwysig cadw tystiolaeth yn ddiogel, a gwneud hynny’n gyflym, mewn gwaith fforensig. Dywedwch wrthym pan fyddwch yn riportio eich trosedd os ydych yn meddwl bod tystiolaeth fforensig. Byddwn yn rhoi gwybod i chi os yw’r dystiolaeth yn rhywbeth y gallwn ei defnyddio.
Mae unrhyw system teledu cylch cyfyng, camera cloch drws, recordiadau fideo neu sain eraill yn dystiolaeth werthfawr. Peidiwch â diffodd unrhyw ddyfeisiau na newid unrhyw osodiadau.
Os yn bosibl, lawrlwythwch ffilm i gynnwys 5 munud cyn ac ar ôl y digwyddiad a’i chadw’n ddiogel. Peidiwch â’i dileu o’r ddyfais wreiddiol gan ei bod yn dal yn dystiolaeth ac efallai y bydd ei hangen yn ddiweddarach.
Os na allwch lawrlwytho’r ffilm, gadewch y ddyfais ymlaen, a chofnodwch yr amser a’r dyddiad a ddangosir ar y panel arddangos. Pan fyddwch yn riportio’r drosedd, eglurwch fod gennych dystiolaeth ddigidol a byddwn yn eich helpu i gael gafael arni.