Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r gwasanaeth hwn mewn beta, sy'n golygu ein bod yn gweithio arno. Os hoffech roi adborth i ni:
11:00yb - 1:00yh, Llun 24 Awst 2026
Baptist Church, 27 Tyr-Y-Sarn Road Cardiff
1:00yh - 3:00yh, Llun 14 Medi 2026
Rumney Community Education Centre, Llanstephan Road Cardiff
11:00yb - 1:00yh, Iau 17 Medi 2026
Baptist Church, 27 Tyr-Y-Sarn Road Cardiff
6:00yh - 8:00yh, Gwen 25 Medi 2026
Brachdy Road Cardiff
12:00yh - 2:00yh, Mer 07 Hydref 2026
Rumney Community Education Centre, Llanstephan Road Cardiff
11:00yb - 1:00yh, Sad 17 Hydref 2026
Baptist Church, 27 Tyr-Y-Sarn Road Cardiff
12:00yh - 2:00yh, Sad 07 Tachwedd 2026
Rumney Community Education Centre, Llanstephan Road Cardiff
11:00yb - 1:00yh, Maw 17 Tachwedd 2026
Baptist Church, 27 Tyr-Y-Sarn Road Cardiff
6:00yh - 8:00yh, Gwen 20 Tachwedd 2026
Rumney Chapel, Brachdy Road Cardiff
12:00yh - 2:00yh, Llun 07 Rhagfyr 2026
Rumney Community Education Centre, Llanstephan Road Cardiff
Cyffuriau a phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig
Wedi'i roi 15 Mehefin 2026
Mae'r gweithredoedd a gymerwyd yn cael eu diweddaru bob tri mis.
Camau wedi'u cymryd 15 Mehefin 2026
Troseddau Cerbydau
Wedi'i roi 10 Mawrth 2026
Cynhaliwyd patrolau rhagweithiol yn yr ardal. Mae 2 unigolyn wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â cherbydau a gafodd eu dwyn o ardal Tredelerch.
Camau wedi'u cymryd 16 Mehefin 2026
Goryrru
Wedi'i roi 10 Mawrth 2026
Mae Ymgyrch Atal wedi cael ei chynnal yn ardal Tredelerch gyda chymorth GanBwyll a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru - Gweithiodd y timau gyda'i gilydd i fonitro cerbydau a stopio unigolion a oedd yn gyrru dros y terfyn cyflymder, peidio â gwisgo gwregys diogelwch a chyflawni unrhyw droseddau traffig eraill.
Cafodd 667 o geir eu monitro
Rhoddwyd cyngor ar oryrru i 41 o bobl
Rhoddwyd cyngor ar wisgo gwregys diogelwch i 6 unigolyn
Cafodd 1 person ddirwy am oryrru
Codwyd gwŷs ar 1 person am yrru heb drwydded
Mae ymgysylltu yn chwarae rhan hanfodol mewn diogelwch ar y ffyrdd. Cafodd y gyrwyr dan sylw ddewis - mynd i sesiwn addysgol gyda'r Gwasanaeth Tân ac Achub ar unwaith, neu dderbyn cosb benodedig. Dirwy o £100 i'w thalu yn y fan a'r lle yw'r gosb ar hyn o bryd ar gyfer trosedd gwregys diogelwch, neu £100 a 3 phwynt ar eich trwydded am oryrru.
Camau wedi'u cymryd 10 Mehefin 2026
Cyffuriau a phroblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol cysylltiedig
Wedi'i roi 10 Mawrth 2026
Mae patrolau yn cael eu cynnal o hyd yn rhan o Ymgyrch Tellima, ac mae swyddogion lleol yn ymgysylltu â phobl ifanc yn yr ardal drwy ddarpariaethau ieuenctid.
Camau wedi'u cymryd 16 Mehefin 2026
Beiciau modur oddi ar y ffordd a delio mewn cyffuriau
Wedi'i roi 10 Rhagfyr 2025
Rydym wedi patrolio mannau problemus ac wedi cynnal ymgyrchoedd i dargedu troseddwyr.
Camau wedi'u cymryd 10 Mawrth 2026
Pryderon parcio a ffyrdd a goryrru
Wedi'i roi 10 Rhagfyr 2025
Rydym wedi cyhoeddi hysbysiadau Adran 59 a rhybuddion atafaelu ar gyfer cerbydau a patrolio gyda gynnau cyflymder er mwyn monitro cyflymderau traffig. Yn dilyn ymarfer mesur cyflymder, rydym wedi llwyddo i rannu lleoliadau sy'n destun pryder gyda phartneriaid Gan Bwyll er mwyn iddynt ddechrau defnyddio camerâu cyflymder symudol.
Camau wedi'u cymryd 10 Mawrth 2026
Troseddau'n ymwneud â cherbydau - Dwyn ceir/o geir
Wedi'i roi 10 Rhagfyr 2025
Mae Tîm Plismona Cymdogaeth Tredelerch wedi parhau i roi ein cynllun gweithredu troseddau cerbydau ar waith wrth ymateb i unrhyw droseddau cerbydau i sicrhau bod pob llwybr ymholi’n cael ei ddilyn a bod camau cadarnhaol yn cael eu cymryd yn erbyn unrhyw droseddwyr sy’n cael eu hadnabod.
Camau wedi'u cymryd 10 Mawrth 2026
Beiciau modur oddi ar y ffordd a delio mewn cyffuriau
Wedi'i roi 01 Medi 2025
Cynhaliwyd ymgyrch bartneriaeth lwyddiannus arall rhwng timau plismona yn y gymdogaeth a thîm oddi ar y ffordd Cyngor Caerdydd. Nod Ymgyrch Green Horizon yw mynd i'r afael â'r defnydd o feiciau/sgwteri anghyfreithlon mewn mannau gwyrdd a phriffyrdd ledled Caerdydd.
Cafodd mannau problemus eu patrolio a gwelwyd achosion o atafaelu beiciau ledled ardaloedd Penylan, Tredelerch, Llanrhymni a Phentwyn. Cafodd tri cherbyd anghyfreithlon wedi'u gyrru'n fecanyddol, un beic Suron, dau e-sgwter ac un cerbyd eu hatafaelu yn ystod yr ymgyrch. Cânt eu hanfon i'w dinistrio.
Camau wedi'u cymryd 10 Rhagfyr 2025
Pryderon parcio a ffyrdd a goryrru
Wedi'i roi 01 Medi 2025
Rydym wedi cyhoeddi hysbysiadau Adran 59 a rhybuddion atafaelu ar gyfer cerbydau a patrolio gyda gynnau cyflymder er mwyn monitro cyflymderau traffig.
Camau wedi'u cymryd 10 Rhagfyr 2025
Troseddau'n ymwneud â cherbydau - Dwyn ceir/o geir
Wedi'i roi 01 Medi 2025
Rydym wedi cynnal patrolau amlwg iawn mewn ardaloedd a nodwyd a cefnogi digwyddiadau cymunedol er mwyn hybu diogelwch ac annog pobl i roi gwybod am faterion.
Camau wedi'u cymryd 10 Rhagfyr 2025