Gallwch adael y wefan hon yn gyflym drwy wasgu’r fysell Escape Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gall gofalu am bobl agored i niwed, yn cynnwys y rheini sydd â dementia neu glefyd Alzheimer, fod yn heriol.
Mae perygl y gallant ar ryw adeg ddechrau ‘cerdded o gwmpas’. Efallai mai dim ond i’r ardd neu’r stryd fydd hyn am gyfnod byr, ond gall rhai pobl fynd ar goll.
Felly, mae cynllunio ymlaen llaw i’w cadw’n ddiogel yn bwysig dros ben.
Ffurflen yw Protocol Herbert y gall gofalwyr, teulu neu ffrindiau person agored i niwed ei llenwi.
Mae’n cynnwys rhestr o wybodaeth er mwyn cynorthwyo’r heddlu os bydd y person yn mynd ar goll, ac mae’n cynnwys:
Mae’r ffurflen i’w chael ar waelod y dudalen hon.
Mae cadw ffurflen wedi’i llenwi yn arbed y gofid o orfod cofio’r wybodaeth yn ystod cyfnod o straen pan fydd rhywun yn mynd ar goll. Mae hefyd yn arbed amser i’r heddlu, gan ganiatáu i’r chwilio ddechrau’n gynt.
Mae’r fenter wedi’i henwi ar ôl George Herbert, cyn-filwr a oedd yn rhan o laniadau Normandi, a fu’n byw gyda dementia. Bu farw pan oedd ‘ar goll’ yn ceisio dod o hyd i gartref ei blentyndod.
Defnyddiwch eich barn broffesiynol fel gofalwr neu’ch gwybodaeth fel aelod teulu i benderfynu a yw person mewn perygl o fynd ar goll.
Mewn lleoliad gofal, gall y darparwr gofal, y person sydd mewn perygl neu aelod o’r teulu lenwi’r ffurflen.
Gofynnwch am ganiatâd y person sydd mewn perygl neu ei deulu agosaf. Os nad yw’r naill neu’r llall yn bosibl, dylai’r darparwr gofal wneud asesiad 'budd pennaf'.
Diweddarwch y ffurflen yn rheolaidd er mwyn gwneud yn siŵr ei bod bob amser yn gywir.
Gall llenwi’r ffurflen fod yn ffordd werthfawr o gyfathrebu gyda pherthynas oherwydd ei bod yn gwneud iddo ef neu hi feddwl lle arferai fyw neu weithio. Mae hyn yn sbarduno atgofion y maent yn hoffi siarad amdanynt, a gall hyn gyfoethogi eich ymweliad.
Dim ond pan roddir gwybod bod unigolyn ar goll y mae angen y ffurflen ar yr heddlu. Fodd bynnag, gallwch e-bostio copi i [email protected] os hoffech i Heddlu De Cymru gadw copi digidol o'r ffurflen ar ffeil. Bydd hyn yn galluogi swyddogion i gael gafael ar y wybodaeth berthnasol yn gyflymach os rhoddir gwybod bod yr unigolyn ar y ffurflen ar goll.
Dylid ei chadw’n ddiogel, ond yn rhywle y gallwch gael gafael arni’n gyflym.
Mewn lleoliad gofal, rhaid i’r wybodaeth gael ei storio yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Gwnewch yn siŵr fod perthnasau, ffrindiau neu ofalwyr eraill yn gwybod lle mae’n cael ei chadw.
Gallwch lawrlwytho’r ffurflen isod. Bydd angen rhoi copi papur i’r swyddog heddlu sy’n galw i dderbyn yr adroddiad am y person sydd ar goll.
Os byddwch yn darganfod bod person ar goll, cynhaliwch chwiliad ‘drws agored’ byr o’r cyfeiriad, y tir a’r adeiladau allanol, i weld a allwch ddod o hyd iddo/iddi.
Os yw’n dal ar goll, ffoniwch 999 ar unwaith. Peidiwch â phoeni - ni chewch eich beirniadu am ffonio’r heddlu os ydych chi’n poeni am ddiogelwch y person. Po gyntaf y bydd yr heddlu’n gwybod bod rhywun ar goll, y cyntaf y gall swyddogion ddechrau chwilio amdano.
Pan fyddwch yn ffonio’r heddlu, dywedwch wrthynt fod gennych broffil Protocol Herbert.
Os oes gennych fersiwn electronig o’r ffurflen, bydd yr heddlu’n rhoi gwybod i chi i le y dylech e-bostio’r ddogfen fel y gellir rhannu’r wybodaeth â’r swyddogion sy’n chwilio. Os oes gennych gopi papur, gwnewch yn siŵr ei fod wrth law yn barod ar gyfer y swyddog sy’n galw pan fydd yn cyrraedd.
Byddwch yn barod i ateb y cwestiynau canlynol dros y ffôn:
Peidiwch â phoeni, ni fydd hyn yn oedi ymateb yr heddlu – anfonir swyddogion tra eich bod yn siarad.