Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Gellir cyhoeddi nawr mai Keith Evans, 78 oed o ardal Pentre, oedd y cerddwr a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad traffig ffyrdd ar Heol Ystrad tua 5:05pm ddydd Iau 19 Tachwedd 2026.
Mae teulu Keith wedi talu'r deyrnged ganlynol iddo.
"Fel teulu rydyn ni i gyd wedi’n llorio yn llwyr gan ei farwolaeth sydyn a thrasig.
Roedd Keith yn ŵr, yn dad, yn frawd, yn ewythr, yn dad-cu ac yn hen dad-cu ffyddlon oedd yn benderfynol o amddiffyn y bobl yr oedd yn eu caru.
Heb os, bydd pawb oedd yn ei adnabod yn ei gofio am ei agwedd ieuengaidd at fywyd, ei synnwyr digrifwch gwych a'i ymroddiad i'w deulu.
"Mae ein dyfodol yn teimlo'n dywyll heb ei olau, ei dynnu coes, ei natur eithriadol o amddiffynnol a'i gariad a roddai gymaint o gysur i ni.
Rydyn ni am ddiolch i'r gwasanaethau brys am y cymorth parhaus maen nhw'n ei roi ac i bawb sydd wedi anfon negeseuon yn cydymdeimlo â ni.
Wrth i ni ddygymod â'r drasiedi ddisynnwyr yma a chydweithio â'r awdurdodau, rydym yn dymuno prosesu ein sioc a'n galar annirnadwy yn breifat.
Gofynnwn yn barchus, felly, am lonydd i gael gwneud hynny"
Mae swyddogion yn parhau i ymchwilio i'r digwyddiad ac maent yn awyddus i unrhyw un sydd â lluniau camera cerbyd gysylltu â nhw, gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2600377392.