Stamp amser presennol: 24/11/2026 02:52:52
OedRhybuddDienwApeliadauCeisiadauGwneud cais neu GofrestruAmlinelliad ardalSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fynyDrysau AwtomatigSaeth yn ôlBusnesCalendrArian parodSaeth i lawrSaeth i'r chwithSaeth i'r ddeSaeth i fyny[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-chrome' for 'Welsh (United Kingdom)']ClocCaucysylltuCyfarwyddiadauDogfenLawrlwythoLluniaduCyffurEhanguDolen allanolFacebookHoffi ar FacebookSylw ar FacebookMath ffeil diofynMath ffeil DOCMath ffeil PDFMath ffeil PPTMath ffeil XLSCyllid[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-firefox' for 'Welsh (United Kingdom)']Cymorth cyntafFlickrTwyllRhoi adborthBydCi tywysIechydNam ar y clywDolen AnwythoGwybodaethInstagramIntercom[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-internet-explorer' for 'Welsh (United Kingdom)']GliniadurLifftLinkedinGweithgarwch lleol[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-location' for 'Welsh (United Kingdom)']UchelseinyddCownter iselPostMapPin MapAelodaethDewislenDewislen[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-microsoft-edge' for 'Welsh (United Kingdom)']Pobl ar gollNam symud o gwmpasCenedligrwyddPwyntydd gogleddRadiws un milltirTrosolwgTudalennauAwyren bapurParcioPDFFfônPinterestChwaraeCadair dreigloAdnewydduRiportioCaisAilddechrau[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-rotate-clockwise' for 'Welsh (United Kingdom)']Rss[Missing text '/SvgIcons/Symbols/Titles/icon-safari' for 'Welsh (United Kingdom)']ChwilioRhannuIaith arwyddionSnapchatDechrau etoYstadegauYstadegau a chyngor ar atalStopioTanysgrifioTargedTatŵsDweud wrthon ni amTicTumblrPedair awr ar hugainHoffi ar TwitterAteb ar TwitterAildrydar ar TwitterLanlwythoNam ar y golwgWhatsappCadair olwynionCymorth cadair olwynionParcio i gadair olwynionRamp i gadair olwynionTŷ bach i gadair olwynionYoutubeChwyddo mewnChwyddo allan

Allanfa Gyflym

Cwcis

Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.

Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.

Derbyn cwcis Gwrthod cwcis Addasu cwcis

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.

Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.

Neidio i’r prif gynnwys

Neidio i’r prif lywio

Croeso

Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Dechrau nawr

South Wales Police force crest / Arwyddlun Heddlu De Cymru

  • Yn ôl i Riportio

    • Trosedd
    • Treisio, ymosod rhywiol a throseddau rhywiol eraill
    • Riportio camdriniaeth drwy ddefnyddio delweddau personol heb gydsyniad (pornograffi dial)
    • Digwyddiad traffig ffyrdd
    • Riportio ymddygiad gwrthgymdeithasol
    • Riportio am berson sydd ar goll
    • Twyll, llwgrwobrwyo neu lygredd
    • Sbeicio
    • Cerbydau ar goll neu wedi’u dwyn
    • Trosedd gasineb
  • Yn ôl i Rhoi gwybod i ni

    • Achos neu adroddiad sy'n bodoli eisoes
    • Gorymdaith, protest neu ddigwyddiad rydych yn ei gynllunio
    • Ffilmio
    • Beth yw llwyth annormal?
    • Cysylltu â ni i riportio trosedd, digwyddiad neu amheuaeth
    • Cysylltu â ni am rywbeth arall
  • Yn ôl i Gwneud cais neu gofrestru

    • Gyrfaoedd
    • Trwyddedau casglu ar gyfer elusennau
    • Digollediad i ddioddefwyr troseddau
    • Dystysgrif arf tanio, dryll neu ffrwydron
    • Mynd i wrandawiad camymddygiad
  • Yn ôl i Cais

    • Gofyn am adroddiad ar wrthdrawiad
    • Gwneud cais am iawndal am rywbeth mae’r heddlu wedi’i wneud
    • Gwneud cais am eich olion bysedd
    • Gwybodaeth: am yr heddlu, amdanoch chi neu rywun arall
  • Yn ôl i Diolchiadau a chwynion

    • Adborth am y wefan
    • Cwynion
    • Dweud diolch
  • Eich ardal chi

Carchar i ddau ddyn a geisiodd gynnau tanau bwriadol ym Mhontypridd a Chaerffili

Cynnwys y prif erthygl

RhCT/Merthyr/Pen-y-bont ar Ogwr Y diweddaraf
Cyhoeddwyd: 14:04 02/11/2026

Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu De Cymru i dri digwyddiad ym Mhontypridd a Chaerffili.

Dedfrydwyd Yasin Hussain, 18 oed (dyddiad geni 10-04-2008) heb gartref sefydlog, i naw mlynedd a naw mis yn y carchar.

Dedfrydwyd Adam Taylor-Morris, 19 oed (dyddiad geni 10-05-2007) heb gartref sefydlog, i naw mlynedd a naw mis yn y carchar.

Hussain and Taylor-Morris .png
Hussain (ar y chwith) a Taylor-Morris (ar y dde)

 

Cawsant eu dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun 2 Tachwedd. Plediodd Hussain yn euog i dri chyhuddiad o gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd wrth ymddangos gerbron y llys yn flaenorol. Plediodd Taylor-Morris yn euog i dri chyhuddiad o gynnau tân yn fwriadol gyda'r bwriad o beryglu bywyd hefyd.

Roedd chwaer Taylor-Morris, Danni Taylor, wedi gyrru Hussain a Taylor-Morris o'r Alban i dde Cymru ar ddiwrnod yr ymosodiadau.

Digwyddodd yr ymosodiad cyntaf ar Porcher Avenue, Glyn-coch, tua 4am fore dydd Llun 1 Mehefin 2026. Deffrodd y teulu pan glywsant sŵn ffenestr yr ystafell fyw yn torri ar ôl i fricsen gael ei thaflu drwyddi. Ar ôl torri’r ffenestr, ceisiodd yr ymosodwyr daflu potel Molotov drwyddi, ond ni wnaethant lwyddo i wneud hynny. Yn hytrach, chwalodd y botel ar y llawr y tu allan i'r tŷ. Yna, penderfynodd Hussain a Taylor-Morris ffoi o'r lleoliad a chael tacsi i ardal Caerffili.

Digwyddodd yr ail ymosodiad tua 7am yng Nghaerffili yr un diwrnod. Taflodd yr ymosodwyr fricsen drwy ffenestr mewn eiddo ar Wallis Drive. Yna, gwnaethant daflu potel wydr llawn petrol drwy'r ffenestr. Taniodd y botel ar ôl taro'r llawr, ond cafodd y tân ei ddiffodd yn fuan wedyn.

Nesaf, aeth y ddau ddyn mewn tacsi i leoliad y trydydd ymosodiad a ddigwyddodd tua 9am mewn eiddo ar Gilfant Pearson yng Nglyn-coch yr un diwrnod. Gellir gweld Hussain a Taylor-Morris yn loetran am ychydig funudau cyn nesáu at yr eiddo. Yna, mae Hussain yn taflu potel Molotov drwy ffenestr agored yn yr ystafell fyw, sy’n achosi i'r ystafell fynd ar dân, wrth i Taylor-Morris recordio'r cwbl ar ei ffôn.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Connor Michael:

"Ymosodwyd ar y tai hyn mewn modd hynod beryglus gyda’r nod o gynnau tân yn fwriadol. Gallai’r ymosodiadau fod wedi arwain at ganlyniadau dinistriol, gan gynnwys anaf difrifol neu farwolaeth.
"Mae'r dedfrydau a roddwyd yn adlewyrchu pa mor ddifrifol oedd gweithredoedd y troseddwyr, ac rydym yn gobeithio y bydd hyn yn rhybudd i bobl eraill na fyddwn yn goddef ymddygiad o'r fath. Hoffem ddiolch i Heddlu'r Alban a Heddlu Gwent am eu cymorth drwy gydol yr ymchwiliad hefyd."

Plediodd Danni Taylor, 24 oed o Perth a Kinross, yn euog i gymryd rhan yng ngweithgareddau grŵp troseddau cyfundrefnol. Bydd yn cael ei dedfrydu yn ddiweddarach.

Rhannu

Llywio troedyn

Heddlu De Cymru

  • Cysylltu â ni
  • Dewch o hyd i orsaf heddlu
  • Eich ardal chi
  • Amdanom ni
  • Gyrfaoedd
  • Newyddion
  • Ymgyrchoedd
  • Hysbysiad Preifatrwydd
  • Telerau ac amodau
  • Cwcis
  • Hygyrchedd

Gwybodaeth a gwasanaethau

  • Cyngor a gwybodaeth
  • Cyngor atal troseddau
  • Ystadegau a data
  • Cyrchu gwybodaeth (FOI)
  • Riportio
  • Rhoi gwybod i ni
  • Gwneud cais neu gofrestru
  • Cais
  • Adborth

Partneriaid

  • Gwasanaethau partner
  • Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
  • Police.uk
  • Ask the Police

Iaith

  • English

Dilynwch ni ymlaen

© Hawlfraint 2026. Cedwir pob hawl.