Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Torrodd Mohammed Abbas i mewn i gartref yng Nghaerdydd, lle'r oedd teulu yn byw, ychydig cyn 2am ddydd Iau 30 Gorffennaf 2026.
Deffrodd tair merch, dwy ohonynt yn blentyn, i ddarganfod Abbas yn sefyll yn nrws eu hystafell wely yn mastyrbio.
O ganlyniad i’r stŵr, deffrodd aelodau eraill o'r teulu a gwnaeth Abbas ffoi o'r tŷ.
Cafodd ei arestio tua 12 awr yn ddiweddarach am 3.30pm yn ei gartref yn Grangetown, Caerdydd, cyn cael ei gyhuddo.
Cyfaddefodd Abbas iddo gyflawni'r troseddau o gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol ym mhresenoldeb plant er mwyn cael boddhad rhywiol, tresmasu gyda'r bwriad o gyflawni trosedd rywiol, a byrgleriaeth.
Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Catherine Loosemore, o Heddlu De Cymru: "Mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain, a thrwy weithredu ar unwaith ar 30 Gorffennaf, llwyddwyd i arestio Mohammed Abbas yn ddiweddarach yr un diwrnod.
"Mae wedi cael ei gadw yn y ddalfa ac mae bellach wedi cael ei ddedfrydu.
"Mae digwyddiadau sy'n ymwneud â phobl ddieithr fel hyn yn anarferol iawn yng Nghaerdydd, ond roedd Abbas yn unigolyn peryglus."
O ganlyniad i gryfder y dystiolaeth, plediodd yn euog y mis diwethaf ac nid oedd angen i'r dioddefwyr roi tystiolaeth yn y llys.
Cafodd Abbas ei ddedfrydu i chwe blynedd yn y carchar yn Llys y Goron Caerdydd ddoe (dydd Mawrth 10 Tachwedd), gyda chyfnod estynedig o dair blynedd ar drwydded.
Ychwanegodd y Ditectif Brif Arolygydd Loosemore: "Mae ymchwiliad trylwyr a helaeth, lle gwnaethom arestio'r troseddwr ac adfer eiddo wedi'i ddwyn yn gyflym iawn, wedi arwain at ddwyn Abbas gerbron y llysoedd.
"Gobeithio bod y ddedfryd heddiw yn helpu i dawelu meddyliau'r dioddefwyr rywfaint ac yn eu galluogi i fagu hyder unwaith eto.
"Mae'n rhaid bod y digwyddiad yn un brawychus tu hwnt, ac maen nhw wedi bod yn hynod ddewr drwy gydol y profiad erchyll hwn."
Mae'r ymchwiliad hwn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i amddiffyn menywod a merched a chadw Caerdydd yn ddiogel.