Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn 87 oed o Bontypridd wedi cael ei garcharu am 20 mlynedd am gyfres o droseddau rhywiol hanesyddol yn erbyn plant a gyflawnwyd yn erbyn dau ddioddefwr dros gyfnod o ddau ddegawd.
Dedfrydwyd Dilwyn Thomas yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun, 16 Tachwedd 2026 ar ôl cael ei ddyfarnu'n euog o sawl trosedd, gan gynnwys treisio merch dan 16 oed.
Roedd ei droseddu'n rhychwantu'r 1970au a'r 1980au ac yn cynnwys dau ddioddefwr ar wahân. Clywodd y llys sut y bu un dioddefwr yn destun ymgyrch hirfaith o gam-drin dros nifer o flynyddoedd.
Cafwyd Thomas yn euog o dri chyhuddiad o ymosod yn anweddus ar ferch dan 14 oed, tri chyhuddiad o anwedduster difrifol gyda merch dan 14, un achos o ymosodiad anweddus ar ferch dan 14, un achos o gyfathrach rywiol anghyfreithlon â merch dan 13, ac un achos o dreisio merch dan 16.
Gwadodd y troseddau ond fe'i cafwyd yn euog yn dilyn treial yn Llys y Goron Caerdydd ym mis Medi.
Cafodd Thomas ddedfryd estynedig o 20 mlynedd o garchar a bydd yn parhau'n ddarostyngedig i ofynion hysbysiad troseddwyr rhyw am oes.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Dylan Jones:
"Yn 87 oed, efallai fod Dilwyn Thomas yn credu ei fod wedi dianc rhag cyfiawnder am droseddau a gyflawnwyd bron 50 mlynedd yn ôl. Fodd bynnag, diolch i'r dewrder aruthrol a ddangoswyd gan ei ddioddefwyr wrth gysylltu â ni, bydd bellach yn wynebu canlyniadau ei weithredoedd ac mae'n debygol y bydd yn treulio gweddill ei fywyd yn y carchar.
"Gobeithiaf fod yr achos hwn yn tawelu meddyliau pobl eraill, ni waeth faint o amser sydd wedi mynd heibio, ein bod yn parhau i fod yn ymrwymedig i fynd ar drywydd y rheini sy'n gyfrifol am droseddau rhywiol difrifol. Nid yw byth yn rhy hwyr i roi gwybod am gam-drin. Byddwn bob amser yn ymchwilio i adroddiadau o'r math yn drylwyr ac yn sicrhau bod dioddefwyr yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt."
Dywedodd un o'r dioddefwyr yn yr achos: "Hoffwn ddiolch i'r swyddog ymchwilio am ei ddiwydrwydd, ei ddealltwriaeth a'i gefnogaeth drwy'r achos. Er gwaethaf oedi hir a achoswyd gan y diffynnydd, fe roddoch y nerth a'r hyder imi barhau".