Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Ceisiodd dau ddyn ddianc drwy ffenestr yn yr atig pan ddefnyddiodd swyddogion rym i fynd i mewn i dŷ yn Grangetown, Caerdydd.
Ond gan fod y to yn serth iawn, doedd ganddyn nhw ddim dewis ond mynd nôl i mewn at swyddogion a oedd yn aros.
Roedden nhw'n rhan o grŵp a oedd yn cyflenwi crac cocên a heroin yn ardal Grangetown.
Maen nhw bellach wedi'u dyfarnu'n euog a'u dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd.
Roedd swyddogion mewn dillad plaen ar batrôl yn Grangetown ar 1 Mehefin 2026, pan welsant achos tybiedig o ddelio cyffuriau yn Cornwall Street, a oedd yn gysylltiedig â gweithgarwch amheus mynych mewn aelwyd yn Rutland Street.
Defnyddiwyd grym i fynd i mewn i'r aelwyd i arestio'r rheini a oedd yn gyfrifol.
Canfuwyd Keone Becker o Lundain yn yr atig addasedig, lle roedd ffenestr yn y to.
Roedd Tou-Wilhelm Becker-Anoff ac Omer Elbakheet, ill dau o Gaerdydd, wedi dringo allan o'r ffenestr i'r to.
Roedd swyddogion yn credu bod y tri wedi bod yn gweithio gyda'i gilydd i gyflenwi cyffuriau.
Cawsant eu harestio ac yn ddiweddarach gwnaethant bledio'n euog i droseddau cyffuriau.
Daethpwyd o hyd i swm sylweddol o grac cocên a heroin ar y safle.
Atafaelwyd arian parod, ffonau symudol ac offer cyffuriau hefyd.
Dedfrydwyd y dynion yn Llys y Goron Casnewydd ar 6 Tachwedd.
Gwnaeth Keone Becker, 20 oed o Camden, Llundain, Tou-Wilhelm Becker-Anoff, 21 oed o Butetown, ac Omer Elbakheet, 21 oed o Butetown, i gyd gyfaddef meddu ar grac cocên gyda'r bwriad o'i gyflenwi a meddu ar heroin gyda'r bwriad o'i gyflenwi.
Cafodd Becker a Becker-Anoff ddedfrydau o garchar ar unwaith, hyd 3 blynedd 5 mis a 3 blynedd 4 mis, yn y drefn honno.
Dedfrydwyd Elbakheet i 31 mis, a ohiriwyd am ddwy flynedd.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Daniel Davies: "Mae'r ymchwiliad hwn yn dangos ein penderfyniad i dargedu'r rheini sy'n parhau i elwa o'r trallod maen nhw'n ei beri wrth gyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
"Gall trigolion cymunedau Caerdydd fod yn dawel eu meddyliau y byddwn yn parhau i weithio'n ddiflino i ddod o hyd i'r rheini sy'n ymwneud â chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon a'u dwyn gerbron y llysoedd."