Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Abertawe wedi cael ei garcharu ar ôl iddo gael ei ddyfarnu'n euog o ymosod yn rhywiol ar ferch ysgol.
Ymosododd Ceri Farrell, 59 oed o Brynmill, ar ei ddioddefwr tra roedd hi'n cysgu yn ystod haf 2024.
Llwyddodd y dioddefwr i ddianc ar ôl cicio Farrell a ffoi.
Plediodd Farrell yn ddieuog i ymosod drwy dreiddio ond fe'i cafwyd yn euog yn y llys ar 15 Hydref.
Mae wedi cael ei ddedfrydu i naw mlynedd yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Thomas Richardson:
"Roedd hwn yn brofiad hynod ddychrynllyd i'r dioddefwr a oedd yn blentyn. Roedd Ceri Farrell yn gwybod nad oedd hi'n gallu amddiffyn ei hun pan lansiodd ei ymosodiad.
"Mae ei weithredoedd yn gwbl warthus ac mae'r ddedfryd hon yn adlewyrchu hynny.
"Rwy'n canmol y dioddefwr am ei dewrder wrth ddod ymlaen ac yn dymuno'n dda iddi wrth oresgyn ei phrofid erchyll yn feddyliol."
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu amdano eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Mae cyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth ar gael yma.