Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Gastell-nedd Port Talbot wedi cael ei garcharu ar ôl cyfaddef ei ran yn cyflenwi cocên.
Canfuwyd bod Connaire Parsons, 29 oed o Lansawel, yn gysylltiedig â chwe llinell ffôn cyffuriau yr oedd yr heddlu'n ymchwilio iddynt.
Ar 29 Hydref, plediodd Parsons yn euog i ymwneud â chyflenwi cocên.
Yr wythnos hon, mae wedi cael ei ddedfrydu i dair blynedd ac wyth mis yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd John Arlotte:
“Rydym wedi ymroi o hyd i dargedu'r sawl sy'n ymwneud â chyflenwi cyffuriau anghyfreithlon, sy'n achosi niwed sylweddol i gymunedau ledled de Cymru.
"Mae cyffuriau Dosbarth A yn anghyfreithlon am reswm, ac mae'r bobl sy'n ymwneud â'u cyflenwi yn gwybod faint o effaith negyddol maent yn ei chael.
"Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am werthu cyffuriau yn eu hardal gysylltu â ni cyn gynted â phosibl – byddwn yn ymchwilio i’r mater ac yn dwyn y troseddwyr i gyfrif."
Mae ymdrin â throseddau cyfundrefnol yn flaenoriaeth i Heddlu De Cymru a byddwn yn parhau i weithio’n ddiflino i ddal troseddwyr er mwyn amddiffyn cymunedau rhag niwed.
Os ydych chi’n amau bod delio cyffuriau’n digwydd neu’n pryderu efallai bod person ifanc, plentyn neu oedolyn sy’n agored i niwed wedi cael ei dargedu gan grŵp troseddau cyfundrefnol, dywedwch wrthym ni. Nid oes angen i chi fod yn bendant, dim ond yn bryderus.
Ffoniwch ni ar 101 neu, os byddai’n well gennych chi, gallwch gysylltu â Crimestoppers i roi gwybod yn ddienw. Gallwch chi gysylltu ar-lein neu drwy ffonio 0800 555 111. Os bydd rhywun mewn perygl uniongyrchol neu os bydd trosedd yn mynd rhagddi, dylech ffonio 999 bob amser.