Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae lleidr o Gaerdydd wedi cael ei garcharu ar ôl pledio'n euog i dargedu cyfeiriad yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Ar 19 Hydref, aeth Andrew Spellman, 30 oed o Lan yr Afon, i mewn i eiddo yn ardal Penllyn, Cwmafan a dwyn ffôn symudol, iPad, llusern, a chas pensiliau yn cynnwys £560 mewn arian parod.
Cyflawnodd Spellman y drosedd hon ddyddiau ar ôl iddo ddwyn ffôn symudol oddi ar ddioddefwr arall ar 8 Hydref. Fe barhaodd ei droseddu ar 11 Hydref pan wnaeth e ddwyn o siopau yn Aberafan ac Abertawe.
Plediodd yn euog i fod â chanabis yn ei feddiant a chyflawni trosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus wedi'i gwaethygu gan hiliaeth.
Cafodd ddedfryd o dair blynedd o garchar yn ogystal â’r ddedfryd ohiriedig o ddeg mis a gafodd yn flaenorol, i'w treulio yn olynol.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Elisha Rooke:
"Mae hi'n amlwg bod troseddau Andrew Spellman wedi mynd allan o reolaeth, gan iddo gyflawni sawl trosedd dros gyfnod byr ym mis Hydref.
"Nid oedd yn poeni dim am yr effaith y byddai ei weithredoedd yn ei chael ar ei ddioddefwyr. Gall achosi gofid meddwl aruthrol os bydd rhywun yn mynd i mewn i'ch cartref heb ganiatâd. Gobeithio y bydd y dioddefwr yn gallu goresgyn y digwyddiad hwn yn feddyliol o wybod bod Spellman yn mynd i'r carchar."