Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Cafodd Amie Dare, 34 oed o Donypandy, ei dedfrydu i dair blynedd a chwe mis yn y carchar yn dilyn ei heuogfarn.
Cafodd Kirk Howells o Hirwaun ei ddedfrydu i bedair blynedd yn dilyn ei euogfarn.
Cawsant eu dedfrydu ddydd Gwener 5 Mehefin yn Llys y Goron Caerdydd lle plediodd Hussey yn euog i ymwneud â chyflenwi cocên, plediodd Dare yn euog i ymwneud â chyflenwi cocên a chanabis, a phlediodd Howells yn euog i fod â chocên yn ei feddiant ac ymwneud â chyflenwi cocên.
Daw hyn wedi ymchwiliad gan yr heddlu i grŵp troseddau cyfundrefnol a oedd yn gweithio yn ardal Aberdâr. Ym mis Ionawr eleni, canfuwyd bod gan Howells ffôn yn ei feddiant a oedd yn cael ei ddefnyddio i anfon negeseuon yn gwerthu symiau cyfanwerthol o gyffuriau dosbarth A.
Aeth swyddogion i'w gyfeiriad, lle daethant o hyd i'r ffôn. Fe arestiwyd Howells. Wrth iddynt chwilio'r eiddo, daeth swyddogion o hyd i nifer o fagiau yn cynnwys powdr gwyn, clorian, a chyfarpar arall yn ymwneud â chyffuriau.
Ar ôl i swyddogion lawrlwytho cynnwys ffôn Howells, llwyddwyd i gadarnhau bod Hussey yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau dosbarth A ledled ardal Cwm Cynon. Nodwyd bod partner Hussey, Dare, yn aelod allweddol o'r grŵp drwy'r negeseuon hyn hefyd.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Cameron Allcock: "Mae'r grŵp hwn yn grŵp cyffuriau arall a gafodd ei ddarganfod yn rhan o'n hymchwiliadau i gyflenwi cyffuriau yn ardal Aberdâr.
“Fel llawer o ddrwgweithredwyr eraill yn y gorffennol, bydd yr unigolion hyn yn wynebu dedfryd hir o garchar am fod yn rhan o’r fasnach anghyfreithlon hon.”