Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.

Mae staff ar ein Bws Diogelwch wedi helpu i achub bywyd dyn oedd yn dioddef ataliad ar y galon yng nghanol dinas Caerdydd.
Roedd y Bws Diogelwch yn digwydd bod gerllaw pan ddaeth galwad i'r ystafell reoli yn gofyn am gymorth yn ystod oriau mân ddydd Sadwrn, 30 Mai.
Cafwyd hyd i ddyn 36 oed wedi cwympo ac yn anymatebol ar Stryd y Santes Fair ger Gwesty'r Clayton.
Dechreuodd swyddog heddlu roi adfywiad cardiopwlmonaidd (CPR) a defnyddiodd dau fyfyriwr heddlu ddiffibriliwr sy'n cael ei gadw ar y bws, nes i ambiwlans gyrraedd.
Yn ffodus, daeth y dyn yn ymatebol, dechreuodd siarad, a chafodd ei gludo i'r ysbyty.
Mae Bysiau Diogelwch Caerdydd yn patrolio canol y ddinas ar nos Fercher yn ystod tymhorau academaidd, ac ar nos Wener a nos Sadwrn drwy gydol y flwyddyn.
Maent yn cael eu cynnal gan swyddogion a gwirfoddolwyr i helpu unrhyw un a allai fod yn agored i niwed. Nid ydynt ar gyfer myfyrwyr yn unig.
Gwneir hyn trwy:
Mae'r fenter wedi helpu i sicrhau bod miloedd o bobl sydd wedi cael eu hunain mewn sefyllfa agored i niwed neu lle roedd eu diogelwch personol mewn perygl, wedi eu cludo i'w cartrefi neu le arall diogel, fel y Ganolfan Trin Alcohol.
Ers mis Medi 2021, mae mwy na 3,000 o bobl agored i niwed, gan gynnwys 270 ers mis Ionawr 2026, wedi cael eu diogelu gan y tîm Bws Diogelwch.
Dywedodd yr Arolygydd Rya Cowan-Davies, o Heddlu De Cymru:
"Mae gan Gaerdydd hanes rhagorol o weithio mewn partneriaeth sy'n helpu i sicrhau bod ein heconomi nos yn ddiogel yn ogystal â bywiog a chroesawgar.
“Mae'r Bws Diogelwch yn un enghraifft o'r gwaith sy'n cael ei wneud i gadw canol y ddinas a'r ardal gyfagos yn ddiogel.
“Mae'r tîm yn weladwy ac yn canolbwyntio ar ddioddefwyr, ac ar y penwythnos, helpodd y dull hwn i achub bywyd dyn.”