Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i ddiflaniad Ricky Harris wedi arestio dyn.
Cafodd y dyn 41 oed o Aberpennar ei arestio ar amheuaeth o atal claddu cyfreithlon a gwyrdroi cwrs cyfiawnder mewn cysylltiad â diflaniad Ricky.
Mae'n parhau i fod yn y ddalfa ac mae'r ymchwiliad yn parhau.
Mae teulu Ricky wedi cael gwybod y diweddaraf ac maen nhw’n parhau i gael eu cefnogi gan Heddlu De Cymru.
Cafodd Ricky ei weld ddiwethaf ar deledu cylch cyfyng tua 2.20pm ar 18 Tachwedd, 2023, ym Maes-y-Deri, Aberdâr.
Ers hynny, mae'r ymchwiliad i ddod o hyd i Ricky wedi bod yn gynhwysfawr ac mae swyddogion yn adolygu gwybodaeth newydd trwy’r amser.
Mae swyddogion yn chwilio safle Ffwrnaseit yn Abercwmboi, rydym yn disgwyl y bydd hyn yn cymryd peth amser i'w gwblhau ond rydym yn gwneud ein gorau glas i gyfyngu ar unrhyw darfu ar y rhai sy'n defnyddio'r mannau cyhoeddus.
Gofynnwn i unrhyw un a allai fod wedi gweld Rick neu siarad ag e’ yn y dyddiau neu'r wythnosau cyn ei ddiflaniad, neu unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth arall ynglŷn â'i leoliad, gysylltu â Heddlu De Cymru. Gallai eich gwybodaeth wneud yr gwahaniaeth enfawr yn yr ymchwiliad hwn.
Cysylltwch â ni gan ddyfynnu rhif digwyddiad 2300394323