Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei garcharu ar ôl iddo gyfaddef ei fod wedi cyflawni lladrad yn Owen Stores, Trefechan.
Cafodd Stephan Thomas, 25 oed o Ferthyr Tudful, ei ddedfrydu i chwe blynedd yn y carchar yn dilyn ei euogfarn.
Dedfrydwyd Thomas ddydd Gwener 12 Mehefin, lle plediodd yn euog i ladrad a bod â chyllell yn ei feddiant mewn man cyhoeddus.
Aeth swyddogion i Owen Stores ddydd Mercher 3 Chwefror ar ôl derbyn galwad am ladrad arfog. Wrth i swyddogion adolygu system teledu cylch cyfyng y siop, gwelsant fod Thomas wedi cerdded i mewn i'r siop a chwifio cyllell at yr aelod o staff. Gellir ei glywed yn gweiddi "Rho’r arian i fi". Cymerodd Thomas tua £40 mewn darnau arian cyn gadael y siop.
Y diwrnod wedyn, wrth gynnal ymholiadau arestio, gwnaeth swyddogion ddod o hyd i Thomas a’i arestio.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Peter Davies: "Gall lladrad gael effaith ddinistriol ar weithwyr siopau, ac ni ddylai neb orfod dioddef trais wrth weithio.
"Diolch i ymateb cyflym y tîm a chydweithrediad a dewrder y dioddefwr a'i gydweithwyr, llwyddwyd i sicrhau dedfryd o garchar i Thomas am gyfnod sylweddol"