Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn ymwybodol o broblem sy'n effeithio ar y chwiliwr cyfeiriadau ar rai ffurflenni. Mae hyn yn gysylltiedig â phroblem gyda gwasanaeth allanol, a allai olygu na allwch gwblhau eich adroddiad neu gais ar hyn o bryd. Rydym yn monitro'r sefyllfa'n agos a byddwn yn rhoi diweddariadau cyn gynted â phosibl. Rhowch gynnig arall arni yn nes ymlaen. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae ditectifs sy’n ymchwilio i achos o drywanu yng Ngabalfa, Caerdydd, wedi arestio bachgen 17 oed.
Mae’r bachgen, sy’n dod o ardal Caerau yng Nghaerdydd, yn parhau yn y ddalfa ar amheuaeth o achosi niwed corfforol difrifol yn fwriadol, ymosod drwy guro, bod â chyllell yn ei feddiant, a bod â chanabis yn ei feddiant gyda’r bwriad o’i gyflenwi.
Cafodd ei arestio mewn cysylltiad â digwyddiad ym Mharc Lydstep a arweiniodd at drywanu dau fachgen 16 a 17 oed ychydig cyn 7pm ddydd Sul 31 Mai.
Bu’n rhaid i'r dioddefwyr gael triniaeth feddygol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd. Mae'r ddau bellach wedi cael eu rhyddhau o'r ysbyty.
Wrth i swyddogion arestio'r bachgen neithiwr (dydd Mercher 3 Mehefin), fe arestiwyd dyn 61 oed am affräe hefyd.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Phil Marchant, o Heddlu De Cymru: “Mae arestio'r bachgen 17 oed hwn yn ddatblygiad arwyddocaol yn yr ymchwiliad, o ganlyniad i’r ymholiadau helaeth a gynhaliwyd ers i ni gael gwybod am y digwyddiad.
“Hoffem ddiolch i'r gymuned leol am eu cefnogaeth a'r wybodaeth rydyn ni wedi'i chael.
“Mae'r dioddefwyr a'u teuluoedd wedi cael gwybod ac mae'r ymchwiliad yn parhau.”
Gofynnir i dystion neu unrhyw un sydd â lluniau teledu cylch cyfyng gysylltu â Heddlu De Cymru neu Crimestoppers yn ddienw, gan ddyfynnu 2600170643
💻Cysylltwch â ni ar-lein yn https://bit.ly/SWPProvideInfo
📞Ffoniwch 101 neu Crimestoppers yn ddienw ar 0800 555 111.
Ffoniwch 999 bob tro mewn argyfwng.