Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Rydym yn ymwybodol o broblem sy'n effeithio ar y chwiliwr cyfeiriadau ar rai ffurflenni. Mae hyn yn gysylltiedig â phroblem gyda gwasanaeth allanol, a allai olygu na allwch gwblhau eich adroddiad neu gais ar hyn o bryd. Rydym yn monitro'r sefyllfa'n agos a byddwn yn rhoi diweddariadau cyn gynted â phosibl. Rhowch gynnig arall arni yn nes ymlaen. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra.
Mae menyw o Sir Gaerfyrddin wedi cael ei charcharu ar ôl iddi gyflawni cyfres o droseddau yn erbyn yr un dioddefwr mewn diwrnod tra oedd hi dan ddylanwad cyffuriau Dosbarth A.
Fe gyfaddefodd Elizabeth Jones, 26 oed o Lanelli, ei bod wedi defnyddio crac cocên yn ystod y dyddiau cyn iddi gyflawni'r troseddau. Roedd y troseddau dan sylw yn cynnwys bygythiadau i ladd, ymosodiad gan achosi gwir niwed corfforol, tagu bwriadol a difrod troseddol i eiddo gwerth llai na £5,000.
Plediodd Jones yn euog i bob un o'r troseddau hyn a gyflawnwyd mewn cyfeiriad ym Mhontarddulais ar 1 Mai. Plediodd yn euog i ymosod ar gwnstabl a oedd yn cyflawni ei ddyletswydd hefyd.
Mae hi wedi cael ei dedfrydu i gyfanswm o dair blynedd a hanner yn y carchar.
Dywedodd y Ditectif Ringyll James Llewellyn:
“Roedd ymddygiad Elizabeth Jones yn gwbl afreolus, a chyflawnodd y troseddau hyn o ganlyniad i ddefnyddio swm mawr o gyffuriau Dosbarth A dros gyfnod o sawl diwrnod.
“Dyma enghraifft nodweddiadol o pam mae defnyddio cyffuriau yn anghyfreithlon. Mae'n debygol iawn na fyddai dim o hyn wedi digwydd pe na bai Jones dan ddylanwad cyffuriau.
“Ond fe ddigwyddodd – ac mae Jones wedi cyfaddef i gyflawni’r troseddau hyn yn y llys. Bydd hi nawr yn difaru ei henaid, gan ei bod wedi colli blynyddoedd o’i rhyddid yn sgil ei gweithredoedd.”