Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae Heddlu De Cymru yn parhau â'i ymchwiliad i'r gwrthdrawiad traffig ffyrdd angheuol ar yr A48, y 'Tumble', Sain Nicolas, Caerdydd, tua 8pm ddydd Sadwrn 6 Mehefin.
Roedd dau gar yn rhan o'r gwrthdrawiad, sef MG llwyd a Land Rover Defender du.
Er gwaethaf ymdrechion gorau'r gwasanaethau brys, bu farw dyn 18 oed yn y fan a'r lle. Gallwn gadarnhau mai Dominic Luke Bailey o Gaerdydd yw ei enw.
Cafodd gyrrwr y Land Rover a'r cyd-deithiwr eu cludo i'r ysbyty lle maen nhw'n aros o hyd.
Mae teulu Dominic wedi talu teyrnged fel a ganlyn:
"Roedd Dominic yn gorffen ei arholiadau Safon Uwch yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf lle roedd wedi bod yn ddisgybl am y saith mlynedd diwethaf. Roedd wedi cael cynnig lle ym Mhrifysgol Malaysia ond penderfynodd ddilyn ei freuddwydion o weld y byd a mynd i deithio yn lle hynny.
"Doedd neb tebyg i Dominic. Gallai roi gwên ar wyneb unrhyw un. Roedd yn ddyn ifanc mor glyfar a oedd â'i fywyd cyfan o'i flaen.
"Mae teulu Dominic wedi'u llorio ac yn dweud na fydd bywyd byth yr un fath eto hebddo."
Mae'r Uned Ymchwilio i Wrthdrawiadau Difrifol yn apelio ar unrhyw dystion a welodd y gwrthdrawiad neu a welodd y ffordd yr oedd y naill gar neu'r llall yn cael ei yrru cyn y gwrthdrawiad i gysylltu â nhw. Maent yn annog unrhyw un a oedd yn teithio drwy'r ardal ar y pryd i wirio eu camerâu borden flaen a'u teledu cylch cyfyng preifat am luniau perthnasol.
Anogir unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â Heddlu De Cymru - dyfynnwch y cyfeirnod 2600177729.