Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Hysbysiad cynnal a chadw gwefan: Oherwydd gwaith cynnal a chadw sydd wedi’i drefnu ar y platfform, ni ellir cyflwyno ffurflenni rhwng 11.55pm ar ddydd Mawrth, 8 Medi a 7am ar ddydd Mercher, 9 Medi. Bydd gweddill y wefan yn parhau i weithredu fel arfer. Dychwelwch ar ôl 7am ar 9 Medi os ydych am gyflwyno adroddiad ar-lein.

Mae ditectifs sy'n ymchwilio i ymosodiad rhywiol yn y Barri wedi rhyddhau llun e-ffit o'r unigolyn dan amheuaeth.
Digwyddodd yr ymosodiad yn ardal Merthyr Dyfan rywbryd rhwng 5.30am ac 8am ddydd Sul 12 Gorffennaf.
Ers i'r digwyddiad brawychus hwn gael ei riportio, rydym wedi cynnal ymchwiliad trylwyr, gan gynnwys adolygu lluniau teledu cylch cyfyng a chynnal ymholiadau o ddrws i ddrws.
Mae ditectifs bellach yn gwneud apêl gyhoeddus am wybodaeth.
Roedd menyw yn cerdded adref o siop gyfagos pan wnaeth dyn anhysbys ymosod arni.
Yn ôl y disgrifiad mae’r dyn yn wyn, rhwng 5 troedfedd 4 modfedd a 5 troedfedd 6 modfedd o daldra, yn ei ugeiniau, ac yn fawr o gorff. Mae ganddo wallt brown golau ac nid oes ganddo farf.
Roedd yn cario can o lager ac yn gwisgo trowsus tracwisg llwyd.
Nid oes unrhyw ddigwyddiadau tebyg wedi cael eu riportio yn yr ardal.
Gofynnir i unrhyw un sy'n meddwl ei fod yn adnabod y person dan amheuaeth neu sydd ag unrhyw wybodaeth neu ddeunydd fideo i gysylltu â Heddlu De Cymru gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2600222188.
Ffoniwch 999 bob amser mewn argyfwng.
Mae Heddlu De Cymru yn cymryd pob adroddiad am drais rhywiol o ddifrif, ac nid yw byth yn rhy hwyr i roi gwybod am drosedd.
Byddem yn annog pob dioddefwr, ni waeth pryd y digwyddodd y drosedd, i roi gwybod amdani.
Gall rhoi gwybod am achos o drais rhywiol, ymosodiad rhywiol neu unrhyw drosedd rywiol arall fel dinoethi anweddus, fod yn anodd.
Rydym yma i'ch cefnogi os byddwch yn barod i roi gwybod am achos neu os byddai'n well gennych siarad â rhywun arall.
Rhoi gwybod am drais rhywiol, ymosodiad rhywiol a throseddau rhywiol eraill | Heddlu De Cymru