Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei garcharu am nifer o droseddau yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu De Cymru.
Digwyddodd yr ymosodiad mewn cyfeiriad yn Nhonypandy ym mis Awst 2026.
Cafodd Jay Thomas, 28 oed o Donypandy, ei garcharu am flwyddyn a chwe mis yn dilyn ei euogfarn.
Ymddangosodd Thomas gerbron Llys y Goron Merthyr Tudful ddydd Iau 17 Medi, lle plediodd yn euog i ddau gyhuddiad o ymosodiad cyffredin, bygythiadau i ladd, tagu bwriadol, ymosod drwy guro, bod â llafn cyllell / eitem lafnog finiog yn ei feddiant mewn man cyhoeddus a defnyddio geiriau bygythiol/difrïol neu sarhaus.
Cafodd swyddogion nifer o alwadau 999 yn dweud bod rhywun wedi curo'r dioddefwr yn y stryd. Aeth swyddogion i'r lleoliad a dywedodd y dioddefwr wrthynt fod Thomas wedi gafael ynddi wrth ei gwallt a rhoi ei law o amgylch ei gwddf wrth adael y tŷ, gan ei hatal rhag anadlu. Yna, gwnaeth Thomas fygwth y dioddefwr drwy ddweud y byddai'n ei "lladd".
Pan gyrhaeddodd swyddogion, roedd aelod o'r cyhoedd yn dal Thomas yn ôl. Dywedodd ei fod wedi ymyrryd ar ôl gweld Thomas yn taro'r dioddefwr. Gwelodd Thomas yn neidio dros ffens yn ei ardd gyda siswrn yn ei ddwylo.
Dywedodd nifer o dystion fod Thomas wedi taflu cyllell fenyn yn yr awyr yn ystod y digwyddiad hefyd.
Dywedodd Cwnstabl yr Heddlu Adele Smith: "Roedd hwn yn ymosodiad brawychus a direswm; hoffwn ddiolch i'r aelod o'r cyhoedd wnaeth ymyrryd ac atal Thomas rhag parhau i ymosod ar y dioddefwr.
Roedd y dioddefwr yn crynu ac yn ofni am ei bywyd yn dilyn yr ymosodiad. Ni ddylai neb orfod goddef ymddygiad o'r fath, ac rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn rhoi rhywfaint o gysur iddi."