Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Donypandy wedi cael ei garcharu yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu De Cymru.
Dedfrydwyd Kevin Walker, 65 o Donypandy, i bum mlynedd a 219 diwrnod yn dilyn ei euogfarn.
Cafodd Walker ei ddedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Iau 24 Medi lle plediodd yn euog i gyhuddiad o ymwneud â chyflenwi cocên a chyhuddiad o fod â chyffur dosbarth A – sef cocên - yn ei feddiant.
Arweiniodd gwaith dadansoddi at nodi Walker yn un o ddefnyddwyr y llinell gyffuriau a oedd, yn ôl pob tebyg, yn rhan o gyflenwi cocên ar raddfa fasnachol ar draws ardal y Rhondda.
Cadarnhawyd hyn wedi i'r heddlu ddarganfod negeseuon testun a Facebook a chynnal ymholiadau a gysylltodd Walker â'r rhif ffôn oedd yn cael ei ddefnyddio i gyflenwi cyffuriau.
Ar 9 Gorffennaf 2026, gwnaeth swyddogion o'r Tîm Troseddau Cyfundrefnol Difrifol arestio Walker mewn eiddo ar Heol Meisgyn, Trealaw.
Ar ôl ei arestio, chwiliodd swyddogion y tŷ lle y gwnaethant atafaelu cyffuriau roedden nhw'n amau mai cocên ydoedd, tua £200 mewn arian parod, cloriannau digidol, geriach cyffuriau, a ffôn symudol Samsung.
Cadarnhaodd Walker mai fe biau’r ffôn symudol Samsung, gan roi’r cod i swyddogion er mwyn iddynt ddatgloi’r ddyfais. Ar ôl archwilio'r data ar ei ffôn, cadarnhawyd ei fod yn gysylltiedig â'r rhif ffôn gafodd ei nodi yn ystod yr ymchwiliad i'r llinell gyffuriau.
Meddai’r tîm Ymchwilio i Droseddau Cyfundrefnol Difrifol: "Gallwch chi ond ddechrau dychmygu effaith negyddol y cyffuriau mae Kevin Walker wedi'u gwerthu ar y rhai hynny sydd wedi eu cymryd, heb sôn am eu ffrindiau, eu teulu a'u cymunedau ehangach.
"Dyma ddedfryd dda arall yn ymwneud â chyffuriau, sy'n anfon neges glir nad yw'r fasnach gyffuriau yn talu yn y diwedd - bydd ein swyddogion yn eich dal chi a byddwch chi'n mynd i'r carchar."