Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Hysbysiad cynnal a chadw gwefan: Oherwydd gwaith cynnal a chadw sydd wedi’i drefnu ar y platfform, ni ellir cyflwyno ffurflenni rhwng 11.55pm ar ddydd Mawrth, 8 Medi a 7am ar ddydd Mercher, 9 Medi. Bydd gweddill y wefan yn parhau i weithredu fel arfer. Dychwelwch ar ôl 7am ar 9 Medi os ydych am gyflwyno adroddiad ar-lein.
Mae Liam Hobbs, 27, o Drelái, Caerdydd, wedi cael ei garcharu yn Llys y Goron Caerdydd am ymosod yn rhywiol ar blentyn sawl gwaith yn y gorffennol.
Daeth ei droseddau i'r amlwg ar ôl i'w ddioddefwr roi gwybod am yr hyn oedd wedi digwydd.
Cafodd Hobbs ei arestio ac atafaelwyd ei ffôn symudol a dyfeisiau eraill er mwyn eu harchwilio. Darganfuwyd lluniau anweddus o blant ac fe'i harestiwyd eto.
Cyfaddefodd Hobbs i dri chyhuddiad o greu lluniau anweddus ond gwadodd ddau gyhuddiad o ymosod ar ferch dan 13 oed drwy dreiddio.
Fe'i cafwyd yn euog gan reithgor ar 1 Gorffennaf yn dilyn treial yn Llys y Goron Caerdydd a chafodd ei ddedfrydu ar 2 Medi i 14 mis yn y carchar am droseddau creu lluniau anweddus.
Cafodd ddedfryd estynedig o saith mlynedd i'w threulio'n olynol am yr ymosodiadau rhywiol, sy'n cynnwys 5 mlynedd o garchar a chyfnod estynedig o ddwy flynedd ar drwydded.
Yn ei datganiad am yr effaith arni, dywedodd y dioddefwr: "Teimlaf ryddhad bod cyfiawnder wedi'i weinyddu, a bod y rheithgor wedi fy nghredu yn y llys. Dw i am symud ymlaen gyda fy mywyd yn awr."
Dywedodd y swyddog a fu'n ymwneud â'r achos, y Ditectif Gwnstabl Emma Partridge o Heddlu De Cymru: "Roedd y dioddefwr yn hynod o ddewr yn rhannu'r hyn a ddigwyddodd iddi a chynorthwyo'r ymchwiliad.
"Rhoddwyd tystiolaeth gymhellol yn y llys ac fe ddylai deimlo'n falch ohoni ei hun.
"Mae gweithredoedd Hobb yn cael effaith enfawr ar ei bywyd o hyd, gan ei bod yn dioddef o byliau o banig ac yn ei chael hi’n anodd cysgu.
"Gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn rhoi rhywfaint o gysur iddi ac yn ei helpu i fagu’r hyder i symud ymlaen."
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu amdano eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.