Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn wedi cael ei garcharu am nifer o droseddau rhywiol yn dilyn ymchwiliad gan Heddlu De Cymru
Cafodd Andrew Bennison, 44 oed o Bentre'r Eglwys, Rhondda Cynon Taf, ei ddedfrydu i 13 mlynedd yn y carchar yn dilyn ei euogfarn. Mae hefyd wedi cael Gorchymyn Atal a Gorchymyn Atal Niwed Rhywiol fydd yn para am gyfnod o 15 mlynedd o heddiw. Bydd ei enw ar y gofrestr Troseddwyr Rhyw am oes.
Cafodd ei ddedfrydu ddydd Iau 7 Medi yn Llys y Goron Caerdydd, yn dilyn treial wythnos o hyd ym mis Awst 2026 lle cafwyd Bennison yn euog o bedwar cyhuddiad o achosi i fenyw gymryd rhan mewn gweithgarwch rhywiol, wyth cyhuddiad o ymosodiad rhywiol a dau gyhuddiad o ymosod ar fenyw drwy dreiddio â rhan o’r corff.
Rhoddodd y dioddefwr wybod i'r heddlu am y troseddau ym mis Ebrill 2024. Ar ôl ymchwilio i'r achos, canfu swyddogion fod Bennison wedi bod yn cam-drin y dioddefwr dros gyfnod o saith mlynedd.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Bethan Crisfield: "Ni ellir diystyru’r dewrder sydd ei angen i gysylltu a rhoi gwybod i ni am droseddau fel hyn.
“Rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn helpu'r dioddefwr i ailadeiladu ei bywyd a gwella ar ôl y digwyddiadau erchyll hyn. Rydw i am ddiolch iddi am ddangos cryfder ac urddas drwy gydol yr ymchwiliad.
“Gwnaed gwaith sylweddol ar yr ymchwiliad hwn, ac mae’r ddedfryd a roddwyd yn anfon neges hynod gadarnhaol i ddioddefwyr cam-drin rhywiol y byddant yn cael eu credu, y bydd eu hymosodwyr yn cael eu hadnabod, ac y byddant yn cael eu dwyn i gyfrif”.