Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Ben-y-bont ar Ogwr wedi cael ei garcharu ar ôl cyflawni troseddau rhywiol yn erbyn ei ddioddefwr.
Gwnaeth Daffydd Piper, 21 oed o Ben-y-bont ar Ogwr, newid ei ble o ddieuog i euog o un cyhuddiad o dreisio pan ymddangosodd gerbron Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener 24 Gorffennaf.
Yn ystod y gwrandawiad dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun 21 Medi, cafodd Piper ei ddedfrydu i dair blynedd a phum mis yn y carchar. Hefyd cafodd orchymyn atal am bum mlynedd.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Lucy Weaver: "Ni ellir diystyru’r dewrder sydd ei angen i gysylltu â ni a rhoi gwybod am droseddau o'r fath.
“Rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn helpu'r dioddefwr i ailadeiladu ei bywyd a gwella ar ôl y digwyddiadau erchyll hyn.
"Bu llawer iawn o waith fel rhan o'r ymchwiliad hwn ac yn sgîl hyn credwn nad oedd opsiwn arall gan Piper heblaw pledio'n euog ac felly atal y dioddefwr rhag gorfod rhoi tystiolaeth yn y llys."
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu amdano eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.