Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Mae dyn o Faesteg wedi cael ei garcharu ar ôl cyflawni troseddau rhywiol yn erbyn ei ddioddefwr.
Cafwyd Stephen Jones, 55 oed, o Faesteg, yn euog o geisio hudo merch dros 16 oed ac o ymosod ar ferch 13 oed yn dilyn achos llys yn Llys y Goron dros bum niwrnod yng Nghaerdydd ym mis Gorffennaf 2026.
Yn ystod y gwrandawiad dedfrydu yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Llun 7 Medi, cafodd Jones ei ddedfrydu i bum mlynedd a thri mis yn y carchar. Cafodd orchymyn atal am 20 mlynedd a gorchymyn atal niwed rhywiol (Shopo). Bydd ei enw ar y gofrestr troseddwyr rhyw hefyd.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Rebecca Evans: "Ni ellir diystyru’r dewrder sydd ei angen i gysylltu â ni a rhoi gwybod am droseddau o'r fath.
“Rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn helpu'r dioddefwr i ailadeiladu ei bywyd a gwella ar ôl y digwyddiadau erchyll hyn.”
"Rydyn ni eisiau annog dioddefwyr i ddod i siarad â ni, waeth faint o amser sydd wedi mynd heibio ers y digwyddiad. Byddwn yn ymchwilio i’r mater a byddwn yn ei gymryd o ddifrif."
Nid ydym byth yn diystyru pa mor anodd yw hi i oroeswyr cam-drin rhywiol siarad yn agored a rhoi gwybod am ddigwyddiadau o'r fath.
Ond rydym yn gobeithio y bydd achosion fel hyn yn rhoi sicrwydd y byddwn yn gwrando ar ddioddefwyr, yn eu trin ag urddas a pharch, ac y byddant yn cael eu cefnogi drwy'r broses farnwrol.
Os ydych chi wedi cael eich cam-drin yn rhywiol, ac nad ydych yn barod i roi gwybod i'r heddlu amdano eto, peidiwch â dioddef yn dawel. Gellir dod o hyd i gyfoeth o wybodaeth a manylion am wasanaethau cymorth yma.”