Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Yn dilyn y llifogydd sydyn yn ardal Rasuwa ac ardal y ffin rhwng Nepal a Tsieina ar 26 Awst, mae llywodraeth Nepal wedi sefydlu rhif ffôn brys di-doll yn Nepaleg (1234), a llinell gymorth bwrpasol (1144) sydd ar gael yn Nepal. Os ydych chi wedi'ch effeithio ac angen cymorth gan lywodraeth y DU, ffoniwch:
Dyma'r foment aeth swyddogion ymateb o Ben-y-bont ar Ogwr yn y môr i arestio dyn dan amheuaeth o geisio cyfathrebu'n rhywiol â phlentyn.
Ar 22 Hydref 2025, tua 9.45pm, cafodd swyddogion eu galw i lan y môr Porthcawl ar ôl cael adroddiad am ddyn a oedd wedi bod yn anfon negeseuon amhriodol at ferch yr oedd ef yn credu ei bod o dan 16 oed.
Ar ôl cyrraedd yr ardal, rhedodd y dyn – Gavin Bennett – i'r môr i osgoi cael ei arestio. Er gwaethaf y risg o geryntau a'r diffyg gwelededd, gwnaeth y swyddogion ddilyn Bennett yn ddewr i'r môr i sicrhau nad oedd yn cael ei niweidio, ac i sicrhau y gellid parhau â'r broses farnwrol.
Cafodd Bennett ei ddwyn yn ddiogel i'r lan, ei gadw a'i gludo i'r ysbyty ar gyfer gwiriadau, cyn dychwelyd i'r ddalfa.
Cafodd ei gyhuddo yn fuan wedyn o ddau gyhuddiad o geisio cymryd rhan mewn cyfathrebu rhywiol â phlentyn, ac ymhen tri diwrnod ar ôl y digwyddiad plediodd yn euog yn Llys y Goron Caerdydd.
Ar 1 Medi, dedfrydwyd Gavin Bennett, 45 oed, o Borthcawl, i dair blynedd ac wyth mis am y troseddau.
Dedfrydwyd Bennett hefyd am ddau gyhuddiad o ymosod yn rhywiol ar fenyw. Adroddwyd am y mater i'r heddlu ym mis Awst 2023.
Digwyddodd hyn ar ôl i'r dioddefwr ddatgelu bod Bennett wedi ymosod arni'n rhywiol sawl gwaith mewn cyfnod o ddwy flynedd.
Dywedodd y Ditectif Ringyll Natasha O'Rourke:
"Hoffwn ddiolch i'r dioddefwr yn yr achos hwn am ddod ymlaen ac am fod yn ddewr drwy gydol proses yr ymchwiliad. Diolch iddi hi, roedd modd i ni euogfarnu dyn sydd yn amlwg yn fygythiad i ferched ifanc. Gobeithio y bydd hyn yn ei helpu i symud ymlaen o hyn mewn ffordd fwy cadarnhaol a chael rhyw fath o ddiweddglo."
Rhoddwyd gorchymyn atal niwed rhywiol iddo hefyd am 10 mlynedd.
Dywedodd y Rhingyll Melissa Carpenter o dîm ymateb Pen-y-bont ar Ogwr: "Roedd dewrder y swyddogion hyn yn golygu na ddaeth unrhyw niwed i Bennett, ac yna roedd cydweithwyr CID yn gallu parhau â'r ymchwiliad a sicrhaodd fod Bennett yn cael ei ddal i gyfrif am ei weithredoedd."
Dywedodd y swyddog ymchwilio, y Ditectif Gwnstabl Owain Hembury:
"Roedd Bennett yn barod i gam-fanteisio ar rywun yr oedd ef yn credu ei bod hi o dan 16 oed, er ei foddhad rhywiol ei hun. Rwy'n falch o'i weld yn cael ei ddwyn yn atebol am ei weithredoedd er gwaethaf ei ymgais i osgoi cael ei arestio."