Allanfa Gyflym
Rydym yn defnyddio rhai cwcis hanfodol i wneud i’n gwefan weithio. Hoffem osod cwcis ychwanegol fel y gallwn gofio eich dewisiadau a deall sut rydych yn defnyddio ein gwefan.
Gallwch reoli eich dewisiadau a gosodiadau cwcis unrhyw bryd drwy glicio ar “Addasu cwcis” isod. I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio cwcis, gweler ein Hysbysiad cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae eich dewisiadau cwcis wedi’u cadw. Gallwch ddiweddaru eich gosodiadau cwcis unrhyw bryd ar y dudalen cwcis.
Mae’n ddrwg gennym, roedd problem dechnegol. Rhowch gynnig arall arni.
Diolch am roi cynnig ar fersiwn 'beta' ein gwefan newydd. Mae'n waith ar y gweill, byddwn yn ychwanegu gwasanaethau newydd dros yr wythnosau nesaf, felly cymerwch gip a gadewch i ni wybod beth yw eich barn chi.
Lansiodd Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent borth ar-lein newydd heddiw a luniwyd i helpu'r sawl sydd wedi dioddef trosedd i gael y newyddion diweddaraf am eu hachos, gan leihau pryderon a'r rhwystredigaeth a achosir pan na fydd pobl yn gwybod beth sy'n digwydd, gan ei gwneud hi'n haws cysylltu â swyddogion.
Mae'r porth yn sicrhau bod gwybodaeth glir ac amserol ar gael i ddioddefwyr ar adeg sy'n gyfleus iddyn nhw, heb fod angen iddynt ofyn am ddiweddariadau.
Rydym yn gwybod y gall pobl brofi gofid ac ansicrwydd ar ôl dioddef trosedd. Os nad yw dioddefwyr yn ymwybodol o hynt eu hymchwiliad, gall hynny ychwanegu at y straen honno, yn enwedig pan fyddan nhw eisoes yn delio ag effaith yr hyn sydd wedi digwydd. Nod y gwasanaeth newydd hwn yw rhoi tawelwch meddwl i ddioddefwyr a'u helpu i deimlo eu bod yn cael y newyddion diweddaraf, eu bod yn cael eu cefnogi, a'u bod mewn rheolaeth.
Mae'r porth yn galluogi dioddefwyr i fewngofnodi'n ddiogel i weld newyddion am eu hachos, deall beth sydd wedi digwydd, a gweld beth yw’r cam nesaf. Mae modd iddynt gael eu hysbysu wrth i'w hachos symud yn ei flaen hefyd, gan greu darlun cliriach ac osgoi’r angen i gysylltu â swyddogion.
Dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Jeremy Vaughan:
"Rydym wedi ymrwymo i rannu'r diweddaraf â dioddefwyr a'u cefnogi wrth i’r heddlu ymchwilio i'w hachos. Mae'r porth hwn yn gwella'r ffordd rydym yn rhoi diweddariadau i bobl, gan rannu gwybodaeth gliriach mewn ffordd fwy prydlon ac ennyn hyder o ran gwybod beth sy'n digwydd mewn cysylltiad â’u hachos.
"Mae'n blaenoriaethu pobl, gan wneud y broses gyfathrebu'n symlach, yn fwy tryloyw ac yn fwy ymatebol. Mae’n cydnabod hefyd pa mor bwysig yw hi i ddioddefwyr deimlo eu bod yn ymwybodol o unrhyw wybodaeth newydd, yn ogystal â rhoi tawelwch meddwl a chymorth iddynt.
"Mae'r porth yn ategu'r dull personol hwn o gysylltu â swyddogion, yn hytrach na'i disodli. Gall dioddefwyr barhau i siarad â ni'n uniongyrchol, fel sydd wedi digwydd erioed, ac mae'r gwasanaeth yn un cwbl ddewisol, gan alluogi unigolion i ddewis sut a phryd y byddant yn cael diweddariadau."
Dywedodd y Prif Gwnstabl Mark Hobrough, o Heddlu Gwent:
"I lawer o bobl, os nad ydynt yn gwybod beth sy'n digwydd gyda'u hadroddiadau am drosedd, gall hynny greu straen ychwanegol ar adeg sydd eisoes yn anodd. Dylai dioddefwyr gael gwybod am hynt eu hachos a theimlo’n dawel eu meddwl bod ein swyddogion yn cynnal ymchwiliad o safon.
"Mae'r porth hwn yn ffordd arall i ni rannu gwybodaeth â phobl mewn ffordd gliriach a mwy cyfleus, gan sicrhau bod cymorth personol yn parhau i fod wrth wraidd yr hyn a wnawn.
"Y nod yw rhoi rheolaeth i ddioddefwyr dros yr wybodaeth hon wrth iddi ddatblygu, gwneud iddynt deimlo'n fwy hyderus, a'u helpu i gysylltu â swyddogion yn well."
Ni fydd y porth yn cael ei ddefnyddio ym mhob achos, yn enwedig pan fo materion diogelu, bregusrwydd, neu'r angen i ymgysylltu'n bersonol yn berthnasol, gan ei gwneud hi'n fwy priodol i gysylltu â dioddefwyr yn uniongyrchol. Mewn sefyllfaoedd o'r fath, bydd swyddogion yn parhau i weithio'n agos gydag unigolion i roi'r lefel addas o gymorth. Bydd y ddau heddlu yn parhau i weithio gyda gwasanaethau cymorth i ddioddefwyr a sefydliadau cymunedol hefyd er mwyn sicrhau bod pobl yn cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnynt.
Anogir unrhyw un a hoffai ddysgu mwy am y porth, deall sut mae'n gweithio, neu rannu adborth, i fynd i wefannau Heddlu De Cymru a Heddlu Gwent. Bydd eich adborth yn helpu i lywio’r gwasanaeth a’i wella wrth iddo barhau i ddatblygu.
Dysgwch ragor am y porth ar-lein hwn i ddioddefwyr.